Yr wythnos ymwybyddiaeth hon, rydyn ni eisiau rhannu neges syml – does dim cywilydd mewn gofyn am gymorth.
Beth yw diogelu?
Mae diogelu’n fater i bawb. Mae’n golygu diogelu hawl unigolyn i fyw mewn diogelwch, yn rhydd o gam-drin ac esgeulstod.
Fel landlord cymdeithasol, y ni yw’r rhai cyntaf yn aml i weld arwyddion cynnar o gam-drin, esgeulustod, neu amodau byw anaddas, felly rydym mewn sefyllfa dda i helpu.
Wrth gynnal ymweliad arferol â chartref cwsmer eleni, sylweddolodd cydweithiwr yn gyflym nad oedd y cartref yn ddiogel i’r cwsmer na’i merch tair oed fyw ynddo.
“Daeth help pan oedd ei angen fwyaf arnaf”
Dywedodd y cwsmer wrthym:
“Wrth gerdded i mewn drwy’r drws, fyddech chi ddim wedi meddwl bod unrhyw beth o’i le. Ond roedd y gegin yn llawn bagiau sbwriel ac nid oedd yn lle diogel i’m merch, roedd arogl baw cŵn yn yr ystafell fyw ac roedd dillad ym mhobman i fyny’r grisiau. Yr unig ystafell a oedd yn lân oedd ystafell fy merch.”
Nid oedd y cwsmer wedi gofyn i neb am help, ond roedd yn amlwg ei bod yn cael pethau’n anodd. Roedd ei gŵr wedi’i dderbyn i’r ysbyty ar ôl teimlo’n hunanladdol, ac roedd bywyd bob dydd yn mynd mor anodd fel nad oedd yn gallu gofalu am ei chartref.
“Glanhau oedd y peth olaf ar fy meddwl tra roedd fy ngŵr yn yr ysbyty. Roeddwn yn canolbwyntio ar godi, cadw fy merch yn brysur a’i pharatoi ar gyfer yr ysgol. Roedd fy nghartref yn fy nigalonni, ac roedd gen i gywilydd i deulu ddod draw gan fod yr annibendod wedi cyrraedd cam na ddylai fod wedi’i gyrraedd. Roeddwn i’n meddwl y gallwn i ddal ati, ond daeth help o hyd i mi pan oedd ei angen fwyaf arnaf. Roedd angen gweld y golau coch arnaf.”
Ar ôl i’r cydweithiwr godi ei bryder gyda’n tîm diogelu, gweithion ni gyda’r gwasanaethau cymdeithasol i gynnal gwiriad lles yr un diwrnod. Arweiniodd hyn at weithio gyda’r cwsmer a gwasanaethau eraill i greu cynllun diogelwch. Ers hynny rydym wedi gwneud gwaith atgyweirio a pheintio yn yr eiddo, ac rydym wrthi’n gosod lloriau newydd.
Dywedodd y cwsmer wrthym:
“Oni bai am eich help chi, wn i ddim ble fyddwn i. Helpoch fi i glirio’r ystafelloedd, ailbeintio ac addurno. Doedd dim barnu. Dwi mor, mor hapus i chi guro ar fy nrws y diwrnod hwnnw. Doeddwn i ddim yn gwybod bod Cymoedd I’r Arfordir yn cynnig y cymorth hwn, ond os ydy unrhyw un arall yn fy sefyllfa i, byddwn yn dweud hyn – mae help ar gael, felly cymerwch e’.”
Os ydych chi’n cael trafferth gyda rhywbeth, neu’n poeni am ffrind neu gymydog, rhowch alwad i ni ar 0300 123 2100. Rydym yn cydweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed yn ein cartrefi a’n cymunedau. Gan fod ein cydweithiwr wedi gweithredu yn ôl ei reddf, roedden ni wedi gallu helpu’r cwsmer diolchgar hwn. Nawr, mae hi’n edrych ymlaen at y dyfodol, ac mae’n cael sesiynau cwnsela rheolaidd i’w helpu i ymdopi â phethau. Dywedodd:
“Mae fy ngŵr yn gwella, a nawr bod y gegin yn lle diogel i’n merch, rydym yn cael diwrnod pobi bob penwythnos. Er ei bod hi’n rhy ifanc i ddeall beth oedd yn digwydd o’r blaen, mae hi’n hapusach nawr am fod ganddi le i chwarae gyda’i theganau yn yr ystafell fyw eto. Roedd gen i gywilydd o’m cartref o’r blaen, ond nawr dwi’n gwenu pan fyddaf yn cerdded drwy’r drws.
“O waelod fy nghalon, dwi’n ddiolchgar i bawb a helpodd. Oni bai am bob un ohonoch, byddwn i’n dal mewn anobaith llwyr. Nawr, dwi’n teimlo’n obeithiol am y dyfodol.”
Mae help ar gael
Yn ogystal â siarad â ni ar 0300 123 2100, rydym yn tynnu sylw at sefydliadau a all helpu i sicrhau eich bod chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael eich diogelu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
● Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a’u tudalen we gwasanaethau cymorth.
● Mae ein tudalen we cymorth ac adnoddau yn darparu dolenni i sefydliadau a all gynnig cymorth cam drin domestig ac iechyd meddwl.