Rydym yn defnyddio system i’ch helpu i siarad â ni yn eich iaith chi.
Pan fyddwch yn ffonio neu’n ymweld â’n swyddfa nesaf, gallwn eich cysylltu â
chyfieithydd ar y pryd mewn eiliadau. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim.
Sut mae’n gweithio
Pan fyddwch yn ein ffonio
Pan fyddwch yn ein ffonio ar 0300 123 2100, dywedwch wrthym beth yw eich iaith ac fe wnawn ni ychwanegu cyfieithydd ar y pryd i’r alwad. Byddwch chi, y cyfieithydd ar y pryd ac aelod o’n staff i gyd ar yr alwad gyda’ch gilydd. Gallwch siarad yn eich iaith chi a bydd y cyfieithydd ar y pryd yn cyfieithu.
Pan fyddwn ni’n eich ffonio chi
Os ydym yn gwybod beth yw eich iaith, byddwn yn eich ffonio gyda chyfieithydd ar y pryd eisoes ar y ffôn. Dywedwch wrthym beth yw’r iaith orau i siarad â chi. Llenwch y ffurflen hon.
Pan fyddwch yn ateb y ffôn, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn siarad yn gyntaf yn eich iaith chi. Byddant yn dweud wrthych pwy ydyn nhw a phwy o’n tîm sy’n ffonio.
Pan fyddwch yn ymweld â’n swyddfa
Dywedwch wrth ein staff bod angen cyfieithydd ar y pryd arnoch. Gallwch bwyntio at eich iaith ar ein siart ieithoedd.
Byddwn yn ffonio cyfieithydd ar y pryd ac yn rhoi’r ffôn ar seinydd. Bydd y cyfieithydd ar y pryd ar y ffôn yn cyfieithu i chi ac i’n staff.
Ni fydd y cyfieithydd ar y pryd yn ochri â neb, nac yn rhannu’r hyn rydych yn ei ddweud gyda phobl eraill.
Gwyliwch ein tiwtorial yma i weld sut mae’n gweithio!