Ein prif flaenoriaeth yw cartref diogel i’ch teulu, a gwyddom fod hyn, i nifer ohonoch, yn cynnwys eich hannwyl gŵn.

Yn anffodus, yn ddiweddar mae rhai o’n cydweithwyr wedi cael eu bygwth gan gŵn wrth ymweld â chartrefi cwsmeriaid, ac mae un arall wedi cael ei frathu. Gwyddom mai dyma’r peth olaf y byddai unrhyw berchennog ci eisiau iddo ddigwydd, a gall y ci mwyaf cyfeillgar hyd yn oed ymddwyn yn amddiffynnol pan ddaw dieithryn i mewn i’w cartref.

Dyma ddigwyddodd pan oedd un o’n syrfëwyr yn gweithio mewn eiddo yn ddiweddar. Buom yn siarad ag ef am yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod a sut mae wedi effeithio arno ers hynny.

Beth ddigwyddodd pan gyrhaeddoch chi gartref y cwsmer i gynnal arolwg? Beth oedd yr arwydd cyntaf bod rhywbeth o’i le?

“Pan gyrhaeddais yr eiddo, roeddwn yn clywed nifer o gŵn yn cyfarth pan gnociais ar y drws, ond roeddent wedi cael eu rhoi mewn ystafell arall cyn iddynt agor y drws i mi. Wrth i’r drws ffrynt gau y tu ôl i mi, roedd y cŵn eisoes wedi dianc o’r gegin a rhedeg tuag ataf a dechrau neidio i fyny arnaf. Digwyddodd yr un peth eto ychydig funudau’n ddiweddarach ond y tro hwn gallwn glywed un o’r cŵn mwy ymosodol yn rhedeg ac yn cyfarth i fyny’r grisiau tuag at ble roeddwn i.”

Sut oeddech chi’n teimlo ar y pryd ac a oedd yn rhaid i chi gymryd unrhyw gamau i’ch amddiffyn eich hun?

“Roeddwn i’n gwybod fy mod mewn perygl a bod y ci yn dod amdanaf yn hytrach na bod yn chwilfrydig. Roeddwn ar y landin felly caeais fy hun yn yr ystafell wely agosaf I gadw’n ddiogel.”

Pa gamau a gymerodd y cwsmer?

“Yna, rhoddodd y cwsmer y ci yn ôl mewn ystafell gaeedig. Ond cymerodd hyn dipyn o amser gan nad oedd ganddynt fawr o reolaeth dros eu ci.”

Sut mae’r profiad hwn wedi effeithio arnoch yn y dyddiau a’r wythnosau ers iddo ddigwydd ac a yw wedi newid eich agwedd at eich swydd?

“Gwnaeth i mi deimlo’n anghyfforddus wrth sylweddoli pa mor gyflym y gallai sefyllfa waethygu. Roeddwn i hefyd yn teimlo’n wael dros y cwsmer, gan fy mod wedi gorfod esbonio y byddai’n rhaid i mi adael yr eiddo gan ei fod yn anniogel. Rwy’n hoff iawn o gŵn ond rwyf bellach yn fwy gofalus pan fyddaf yn dod ar eu traws.”

Beth hoffech chi ofyn i gwsmeriaid ei wneud gyda’u cŵn cyn i chi fynd i’w cartref os oes ganddynt anifeiliaid anwes?

“Rhowch wybod i ni cyn dod i mewn i’r eiddo bod cŵn yn bresennol. Hyd yn oed os yw eich cŵn yn gyfeillgar, byddwch yn barod i’w rhoi o’r neilltu. Os ydynt y tu allan/mewn ystafell arall, gwnewch yn siŵr, eu bod yn ddiogel ac na allant ddianc.”

Er diogelwch ein cydweithwyr – a’ch cŵn chi:

  • Cadwch eich anifeiliaid anwes mewn ystafell ar wahân, ddiogel a chyfforddus cyn i’n cydweithwyr ddod i mewn i’ch eiddo. Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi cyn ymweliad sydd wedi’i drefnu, a phan fyddwch yn trefnu apwyntiad, bydd ein tîm yn eich atgoffa o’r gofyniad hwn.
  • Os oes angen atgyweiriad brys, sicrhewch fod eich ci mewn man diogel cyn ateb y drws i’n tîm.
  • Cadwch eich ci mewn man diogel drwy gydol ein hymweliad. Mae hyn yn diogelu eich ci hefyd drwy atal damweiniau sy’n ymwneud â’n hoffer.

Cofiwch

Dan y gyfraith, ystyrir bod eich ci ‘allan o reolaeth a pheryglus’ os yw’n anafu rhywun neu’n gwneud i rywun ofni y gallent gael eu hanafu, ni waeth pa frid ydyw. Gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol i bawb, gan gynnwys eich ci.