Mynd i’r Afael â Gwastraff Gyda’nGilydd

Published on:

Rydych chi wedi dweud wrthon ni fod gwastraff yn broblem yn ein cymunedau, ac rydyn ni’n gwrando.

Nid yw sbwriel wedi’i ddympio, tipio anghyfreithlon a chael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon yn gwneud i’n strydoedd edrych yn anniben yn unig; mae’n beryglus, yn gostus, ac yn annheg i bawb. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydyn ni wedi gwario dros £100,000 yn clirio gwastraff ledled Pen-y- bont ar Ogwr.

Mae ein gofalwyr eisoes yn treulio amser bob wythnos ar ein hystadau, ond rydyn ni’n gwybod y byddai’n well gennych chi weld yr amser a’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i wella eich cymdogaeth, nid dim ond glanhau llanast pobl eraill.

Felly rydyn ni’n gwneud rhywbeth am hyn ac rydyn ni am i chi wybod ein bod ni yma i’ch helpu chi, hefyd.

Wedi’i weld? Adroddwch.

Os gwelwch chi rywun yn dympio gwastraff, gallwch ei adrodd yn ddienw i’r cyngor neu gysylltu â ni yn uniongyrchol. Mae’n cymryd munud yn unig ac mae’n gwneud gwahaniaeth.

Sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni’n gwybod y gall gwybod yr hyn sy’n gyfreithlon a’r hyn nad yw’n gyfreithlon o ran gwastraff fod yn ddryslyd. Os ydych chi’n llogi rhywun i gael gwared ar sbwriel neu’n ei wneud eich hun fel rhan o’ch busnes, rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddeall y rheolau ac osgoi gwneud camsyniad.

Dyma beth y mae angen i chi ei wybod:

  • Os ydych chi’n talu rhywun i fynd a’ch sbwriel, gwnewch yn siŵr ei fod yn drwyddedig i gario gwastraff. Gofynnwch am weld ei drwydded cludwr gwastraff.
  • Os caiff eich gwastraff ei ddympio’n anghyfreithlon a’i olrhain yn ôl atoch chi, chi fydd yr un a gaiff ddirwy.
  • Os ydych chi’n cael eich talu am gael gwared ar wastraff, mae angen trwydded cludwr gwastraff arnoch chi, hyd yn oed os mai dim ond tasg fach yw hi yng ngardd rhywun.

    Os ydych chi’n mynd â gwastraff am arian ac yn ei waredu eich hun, rydych chi’n gweithredu fel busnes, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi:

  • Gael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n costio £169 ac mae’n para am 3 blynedd.
  • Defnyddio safleoedd gwaredu trwyddedig fel Nolan’s Skips neu ACD, ac mae’n rhaid ymdrin â gwastraff masnachol mewn ffordd broffesiynol.
  • Dim trwydded? Mae hynny yn erbyn y gyfraith, a gallech wynebu camau gweithredu.

Beth rydyn ni’n ei wneud fel rhan o ymgyrch #CaruEichStryd

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth – rydyn ni’n gweithredu.

  • Mae ein Tîm Gofalwyr yn ymweld â chymunedau i glirio tipio anghyfreithlon a chadw’r ardal yn lân, yn ddiogel ac wedi’i gofalu amdani.
  • Bob ychydig o fisoedd, rydyn ni’n mynd ar Ddydd Mercher Cerdded o Gwmpas, yn gwirio gyda chi ac yn nodi problemau.
  • Rydyn ni wedi dechrau gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar i atal sawl busnes heb drwydded rhag cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon.
  • Byddwn ni’n gwahodd Cyfoeth Naturiol Cymru i Ddiwrnodau Hwyl yr Haf a digwyddiadau galw heibio ar gyfer Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol i siarad â chi am sut i adrodd am dipio anghyfreithlon, cael trwydded, ac amddiffyn eich hun.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gyda’n gilydd, gallwn lanhau ein cymunedau a sicrhau bod ein strydoedd yn lleoedd i fod yn falch ohonynt.