Eich diogelwch chi yw ein blaenoriaeth ni, felly byddwch yn dod o hyd i larwm carbon monocsid (CO) yn eich cartref pan fyddwch yn symud i mewn. Mae’r dyfeisiau hyn yn gweithio drwy seinio larwm uchel os
byddant yn canfod lefelau peryglus o garbon monocsid – nwy marwol, diarogl ac anweladwy.

PEIDIWCH Â gwneud y canlynol:

  • Symud eich larwm
  • Tynnu eich larwm i lawr
  • Rhoi eich larwm mewn man caeedig
    fel cwpwrdd neu ddrôr.

Gall rhwystro’r larwm mewn unrhyw ffordd ei atal rhag canfod carbon monocsid a’ch rhybuddio am sefyllfa a allai fygwth bywyd.

Os ydych chi’n gosod larwm ychwanegol eich hun, dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser. Mae gosod y larwm yn gywir yn allweddol i sicrhau ei fod yn gweithio.

Cofiwch, gall gwenwyno carbon monocsid ddigwydd yn sydyn a heb rybudd. Gallwch ddysgu mwy am atal carbon monocsid, a symptomau gwenwyno carbon monocsid yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich larwm carbon monocsid neu ei leoliad, ffoniwch ni ar 0300 123 2100.