Y mis hwn, bydd 3,000 ohonoch yn cael ein harolwg STAR a gynhelir bob dwy flynedd drwy eich blwch llythyrau. Yn yr arolwg STAR diwethaf, rhannoch chi anfoddhad â’n gwasanaeth atgyweirio ac arweiniodd hynny at greu cwmni i wella ac ehangu ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw – Llanw.

Y tro hwn, rydym yn gofyn ein cwestiynau STAR craidd i chi, ynghyd â rhai cwestiynau ychwanegol gan adrannau amrywiol er mwyn rhoi cipolwg i ni ar sut rydych chi’n teimlo am ein gwasanaethau.

Ein tro ni i wneud rhywbeth i chi I ddiolch i chi am roi adborth, bydd tri chwsmer yn cael eu dewis ar hap i dderbyn talebau siopa sy’n werth £250, £150, a £100.

Camau nesaf

Bydd y data’n barod i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror, a bydd yn cael ei ddefnyddio i wella’r pethau sy’n bwysig i chi.