Rydym yn lansio digwyddiadau Cymunedol Untro ‒ yn dechrau’r wythnos nesaf a thrwy gydol Ebrill. Ein nod yw cyflwyno Llanw i’n cymunedau, magu ymddiriedaeth, a sefydlu perthnasoedd hirbarhaol cyn ein lansiad swyddogol ar ddydd Mawrth, 2 Ebrill.  

Mae hyn nid yn unig yn ymwneud â sicrhau bod ein brand yn adnabyddadwy; mae hefyd yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teimlo’u bod yn cael eu hysbysu a’u cynnwys ar ein taith i gyflwyno gwasanaeth atgyweirio rhagorol. Bydd y digwyddiadau hyn hefyd yn gyfle gwych i ni rannu cyfleoedd gwaith a hyfforddi, a chasglu adborth gan ein cwsmeriaid ar yr hyn mae gwasanaeth ardderchog yn ei olygu iddyn nhw.

Ymgysylltu â’n Cymuned

Ym mhob digwyddiad, byddwn yn ymroi i ymgysylltu â’n cwsmeriaid, gan ofyn cwestiynau fel “Ydych chi’n gwybod pwy yw Llanw?” a “Pha agweddau ar Llanw sydd o ddiddordeb i chi?” fel y gallwn asesu ein hymwybyddiaeth brand ac addasu ein gwasanaethau felly.

Byddwch yn barod am brofiad braf ym mhob digwyddiad, lle bydd ein cydweithwyr yn gwisgo ein dillad gwaith newydd sbon yn falch. A hefyd, mae gennym amrywiaeth o nwyddau hyfryd am ddim i’w dosbarthu, yn cynnwys bylbiau golau sy’n arbed ynni, amseryddion cawod, a thaleb siopa gwerth £10 hyd yn oed – i’r 10 cwsmer cyntaf.

Ble Fyddwn Ni:

Byddwn mewn amrywiol leoliadau ar draws y sir drwy gydol mis Mawrth, yn cynnwys Maesteg, Ynysawdre, a Phorthcawl. Cadwch eich llygaid ar agor am ein baneri plu trawiadol a’n digwyddiadau untro. Yn ogystal, cofiwch ymuno â ni yn ein digwyddiadau Ymgysylltu’r Gwanwyn hwyliog yn ystod Gwyliau’r Pasg am fwy o gynnwrf Llanw.


Amserlen digwyddiadau

Sioeau teithiol Llanw

Dydd Mawrth 19 Mawrth1pm – 3pmYnysawdre, tu allan i ganolfan Halo
Dydd Mercher 20 Mawrth10am – 12pmMaesteg, tu allan i ganolfan Halo
Dydd Iau 21 Mawrth10am – 12pmPorthcawl, Lakeview Close