Ymunwch â Ni ddydd Mercher, 31 Ionawr rhwng 2 pm ac 8 pm
Swyddfa Cymoedd i’r Arfordir, Heol Tremains, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1TZ.

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol crefftus ac yn dymuno cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Mae Llanw, ein cwmni atgyweirio a chynnal a chadw yn chwilio am unigolion brwd i ymuno â’n tîm a llenwi 10 swydd wag mewn amrywiol grefftau. P’un ai rydych yn saer, trydanwr, plymwr, plastrwr, neu
debyg, mae gennym gyfleoedd cyffrous i chi.

Uchafbwyntiau’r Digwyddiad:
 Dewch i Adnabod Llanw: Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â Llanw a sut brofiad yw gweithio gyda nhw.
 Cyfle i Gwrdd â Thîm Llanw: Ymgysylltwch â’r bobl yn y rolau a darganfod y gymuned gefnogol yn Llanw.
 Rhannwch Eich Manylion: Rydyn ni eisiau gwybod mwy amdanoch! Rhannwch eich sgiliau a’ch profiad gyda ni.
 Cyfweliadau Cyflym ac Anffurfiol: Bydd y broses gyfweld yn gyflym ac yn anffurfiol, ac yn rhoi cyfle i chi arddangos eich doniau yn rhwydd.

Cadarnhewch Eich Presenoldeb
Cadarnhewch eich presenoldeb drwy lenwi’r gofrestr gyflym hon (dolen i ffurflen google) i’n helpu i baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae eich presenoldeb yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y diwrnod hwn yn llwyddiant! Nodwch nad oes parcio ar gael ar y safle, felly defnyddiwch y meysydd parcio cyfagos ger Heol Tremains.

Y Dogfennau Bydd Rhaid eu Dangos:
 Dull adnabod: Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod ag ID ynghyd â’ch dogfennaeth hawl i weithio fel pasbort, fisa, neu dystysgrif geni lawn a phrawf o’ch rhif YG
 Tystysgrifau Crefft: Os oes gennych dystysgrifau crefft, dewch â nhw fel prawf o’ch arbenigedd
 Manylion unrhyw gysylltiadau ar gyfer geirdaon

Gair gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Paul Price: “Yn Llanw, rydyn ni’n credu mewn adeiladu tîm o weithwyr proffesiynol crefftus sydd nid yn unig yn weithwyr ond yn gyfranwyr at ein cenhadaeth o gyflwyno gwasanaethau atgyweirio rhagorol. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl drwy ein drysau, dangos iddynt beth rydym yn ei gynnig, a gobeithio – recriwtio mwy o unigolion crefftus a fydd yn parhau i’n helpu i
ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid.”

Os nad yw’r diwrnod neu’r amser yn gyfleus i chi, anfonwch e-bost atom yn recruitment@v2c.org.uk ac fe geisiwn drefnu dyddiad ac amser gwahanol.