Diolch am eich enwebiadau, rydym wedi dewis ein Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2024! Roedd yr ymateb yn anhygoel, gyda dros 43 o enwebiadau’n amlygu gwaith anhygoel pum elusen deilwng.

Ar ôl ystyriaeth ofalus, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei dewis fel ein Helusen y Flwyddyn. Gwnaed y penderfyniad yn ystod ein Cyfarfodydd Briffio Busnes Y Gaeaf, pan ddaeth cydweithwyr ynghyd a phleidleisio dros achos oedd yn adlewyrchu ein gwerthoedd
a’n cenhadaeth yn berffaith.

Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi unigolion sy’n gofalu am aelodau teulu, partneriaid, ffrindiau neu gymdogion. Maent nid yn unig yn darparu gwybodaeth a chyngor hanfodol ond hefyd yn rhoi cefnogaeth fawr ei hangen a threfnu gweithgareddau cymdeithasol i helpu’r rhain yn ei rolau gofalu. Mae’n anrhydedd i ni gael cyfrannu at eu gweithgareddau tra effeithiol drwy gydol y flwyddyn nesaf.

Bwriom ati ar unwaith i gefnogi’r achos anhygoel hwn. Achubodd ein côr ar y cyfle i ganu carolau’r Nadolig y tu allan i archfarchnadoedd lleol, rydym wedi cynnal cwis Nadoligaidd, a raffl gyffrous – ac rydym wedi codi dros £1000 yn barod!

Rydym yn cynllunio noson gymdeithasol ar ddiwedd Ionawr, yn cynnwys arwerthiant distaw gyda gwobrau anhygoel. Mae’n gyfle gwych i’n cydweithwyr ddod at ei gilydd, cael hwyl, a chyfrannu at lwyddiant parhaus Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Os hoffai unrhyw bartneriaid roddi gwobr at yr achos a’n helpu i godi mwy fyth o arian, yna cysylltwch â ni.

A dyma wahoddiad i chi: mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu yn eu caffi cymunedol a gyda’u prosiect garddio. Os ydych yn ystyried gwirfoddoli yn y flwyddyn newydd, beth am ymuno â nhw i wneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai maent yn eu gwasanaethu? I ddysgu sut i gymryd rhan, ewch i’w gwefan a chael mwy o wybodaeth.