Yn Llanw, ein gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw newydd, rydym yn gymuned sy’n canolbwyntio ar bobl, lle mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Mae dysgu oddi wrth eich profiadau chi yn llywio ein gwasanaethau fel y byddant yn cwrdd â’ch anghenion wrth iddynt esblygu, ac mae hwn yn ymrwymiad a wnaethom o gychwyn cyntaf ein taith.


Roedd ein gweithdy cyntaf i gwsmeriaid yn brofiad goleuol a’n helpodd i ddeall beth mae gwasanaeth i gwsmeriaid da yn ei olygu. Gwnaethom yr ymarfer hwn gyda’n cydweithwyr hefyd i sicrhau bod ein gwerthoedd yn cyd-fynd ar draws y ddwy elfen.


Roedd y themâu datblygol yn cynnwys pwysigrwydd bod yn gwrtais, yn ddibynadwy, yn gyson (yn union fel y llanw), a gwella ein system gyfathrebu Rydym yn credu mai cydnabod y pethau nad ydynt yn grêt yw’r cam cyntaf tuag at dyfu.


Felly dyna’r union beth rydym yn ei wneud! Rydym yn mynd i’r afael â’n gwendidau, gan ganolbwyntio ar wella cyfathrebu o gwmpas y gwaith atgyweirio. Rydym hefyd yn archwilio ffyrdd o sicrhau bod ein gwaith atgyweirio’n fwy effeithiol a bod ein cydweithwyr nid yn unig yn grefftus ond yn dra chrefftus, gan ddarparu’r ateb y tro cyntaf mewn un ymweliad. Dim rhagor o ymweliadau niferus i blymwyr, teilswyr ac addurnwyr – rydym yn symleiddio’r broses i wella’n heffeithlonrwydd a’ch boddhad chi.


Ddoe cawsom gyfarfod gyda’n cwsmeriaid Sarah a Nigel, a chael y pleser o rannu fideo lansio’r brand Llanw. Ond nid dim ond y logo neu’r enw sy’n bwysig: mae’n ymwneud ag adeiladu ymddiriedaeth a chydnabyddiaeth yn y gymuned.


Trafodom eu disgwyliadau o ran cyfathrebu cyn ac ar ôl y lansiad, gan sicrhau eich bod yn teimlo’n ddiogel ac yn sicr o wybod bod Llanw yn rhan annatod o’r grŵp Cymoedd i’r Arfordir ac yn cydnabod hyn pan fyddwn yn troi fyny wrth eich drws.


Byddwn yn trefnu cyfarfod arall ym mis Ionawr, i gasglu gwybodaeth werthfawr gennych i fireinio ein dull o weithredu. Mae’r lansiad ym mis Ebrill 2024 ar y gorwel, ac wrth i bob diwrnod fynd heibio, rydym yn nesáu at gael effaith ar y gymuned drwy’r gwasanaeth Llanw.


Os hoffech ddod i’n cyfarfod nesaf, anfonwch e-bost at customervoice@v2c.org.uk. Diolch i bob un ohonoch am eich cefnogaeth ddiysgog ar y daith hyd yma. A gan nad yw’r llanw a’r tonnau’n aros i unrhyw un, gwell i ni fwrw ati.