I ddiogelu ein planed hardd a gwneud y gorau o’n mannau gwyrdd, rydyn ni eisiau gweithio gyda chymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a meddwl yn wahanol am sut i ddefnyddio’r mannau agored hyn yn y dyfodol.


Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cydymweithio â’n cwsmeriaid a’n preswylwyr i benderfynu a oes yna awydd am wneud mwy ar ein mannau gwyrdd.


Mae rhai o’r syniadau dan ystyriaeth yn cynnwys:
Tyfu Bwyd Ffres a Chreu Perllannau: Dychmygwch gasglu afalau neu gynaeafu llysiau o ardd gymunedol. Rydym yn awyddus i archwilio’r potensial ar gyfer cynhyrchu cynnyrch ffres yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.


Creu Coedwigoedd Bychain gyda Llwybrau Cerdded ac Ystafelloedd Dosbarth: Beth am drawsnewid lleiniau o wyrddni yn goedwigoedd bach hudolus, gyda llwybrau lle gallwch grwydro a dysgu am ryfeddodau natur.


Plannu Llwyni a Choed Brodorol: Mae planhigion brodorol yn hanfodol ar gyfer cefnogi bywyd gwyllt lleol, o adar i wenyn. Gall plannu mwy ohonynt feithrin ecosystem lewyrchus yma ar garreg ein drws.


Creu Rhandiroedd a Gerddi Bwyd: Rydyn ni’n meddwl am welyau uchel a siediau, fel y bydd yn haws i breswylwyr dyfu eu bwyd a dod yn fwy hunangynhaliol.


Fodd bynnag, rydyn ni’n credu’n gryf mai’r prosiectau mwyaf llwyddiannus yw’r rhai hynny sy’n seiliedig ar fewnbwn ac ymglymiad gan y gymuned. Mae eich lleisiau chi yn cyfrif, ac rydyn ni eisiau eu clywed. Dyna pam rydym wedi trefnu’r sesiynau galw heibio cymunedol canlynol i hyrwyddo trafodaeth:

 Dydd Llun, 20 Tachwedd, 2-6 pm, Canolfan Gymunedol Wildmill, CF31 1SP.
 Dydd Mawrth, 21 Tachwedd, 3-6 pm, Canolfan Gymunedol Bryntirion, CF31 4TJ.
 Dydd Mercher, 22 Tachwedd, 3.30-6 pm, Canolfan Gymunedol Noddfa, CF34 0PB.

Pan fyddwn wedi casglu eich adborth, byddwn yn dechrau chwilio am ffynonellau arian fel y gallwn rhoi’r mentrau hyn ar waith a sicrhau eu bod yn llwyddo. Rydyn ni eisiau gwybod – a oes gennych chi syniadau, meddyliau, neu freuddwydion ar gyfer ein mannau gwyrdd? Mae eich mewnbwn chi yn rhan werthfawr iawn o’r broses, felly rhowch eich adborth i ni drwy lenwi’r arolwg byr hwn.


Gofynnwn i chi hefyd ledaenu’r gair ynglŷn â’r prosiect hwn (y Prosiect Daioni drwy Dyfu) gyda ffrindiau, teulu a chymdogion sy’n rhannu eich brwdfrydedd dros gynaliadwyedd a bioamrywiaeth. Efallai bod yna aelod o’r gymuned leol sydd wedi bod yn aros am gyfle fel hwn.


Os ydych yn awyddus i dorchi llewys a chymryd rhan yn y gwaith o blannu a meithrin y mentrau hyn, bydd croeso mawr i bâr ychwanegol o ddwylo. Fel bob amser, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu mae angen mwy o wybodaeth arnoch, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi ar
bob cam o’r ffordd.