Wrth i ni baratoi ar gyfer y Nadolig, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cymryd rhan mewn tair menter leol ardderchog. Trwy gydweithio, rydym yn credu y gallwn gael effaith ystyrlon ar fywydau’r rhai hynny yn ein cymuned sydd ei hangen fwyaf. Eleni rydyn ni’n cefnogi:


Apêl Siôn Corn Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Rydyn ni’n helpu i sicrhau bob pob plentyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn derbyn anrheg wrth ddeffro ar fore’r Nadolig. Rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr wneud rhodd o arian neu brynu anrheg newydd, heb ei lapio y gallwn ei gyfrannu.


Os hoffech gefnogi’r fenter hon, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yma:

Os hoffech gefnogi’r fenter hon, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yma: https://www.bridgend.gov.uk/cy/newyddion/rhannwch-lawenydd-yr-wyl-y-nadolig-hwn-drwy-gefnogi-r-apel-sion-corn/

Apêl Blwch Rhodd Age Cymru
Rydyn ni hefyd wedi bod yn meddwl am aelodau hŷn ein cymuned a allai fod yn teimlo braidd yn unig yn ystod gŵyl y Nadolig. Felly byddwn yn gofyn i gydweithwyr gasglu blwch sgidiau a’i lenwi ag anrhegion meddylgar, ac yna byddwn ninnau’n eu dosbarthu i’r rhai hynny sydd eu hangen yn ein cymunedau.


Os hoffech gefnogi’r fenter hon hefyd, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Age Cymru yma: https://www.ageuk.org.uk/cymraeg/age-cymru/cymryd-rhan/apel-blwch-rhodd/


Casgliad Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr
Rydyn ni’n cefnogi Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr trwy gydol y flwyddyn ac yn aml byddwn yn rhoi talebau banc bwyd i’n cwsmeriaid os byddwn yn gweld eu bod yn ei chael hi’n anodd prynu bwyd ar gyfer yr oergell. Oeddech chi’n gwybod eu bod wedi helpu 3283 o oedolion a phlant eleni yn unig?


I helpu i sicrhau bod gan bobl rywbeth i’w fwyta dros ŵyl y Nadolig eleni, rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr roddi danteithion Nadoligaidd nad ydynt yn ddarfodus, neu eitemau nad ydynt yn fwydydd. Byddwn yn eu dosbarthu ar ddechrau mis Rhagfyr fel y gall y rhai hynny sydd mewn trafferthion eu derbyn yn y cyfnod cyn y Nadolig.


Os hoffech gefnogi’r fenter hon hefyd, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yma: https://bridgend.foodbank.org.uk/

Os ydych mewn sefyllfa i gefnogi’r mentrau hyn, gadewch eich rhoddion yn ein swyddfa, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y lleoedd cywir ar eich rhan.