Arian. Mae’n bwnc mae pawb yn meddwl amdano, ond yn aml yn bwnc mae’n well gennym beidio â’i drafod ar goedd. Mae Wythnos Sgwrsio am Arian yn gyfle perffaith i dorri’r distawrwydd a dechrau trafod ein materion ariannol. Rydyn ni’n cefnogi hyn, ac rydyn ni eisiau i chi ymuno hefyd trwy
gymryd cam syml ond pwysig: Gwneud Un Peth.

Pam Mae Siarad am Arian yn Bwysig
Mae’r ymchwil yn dangos bod pobl sy’n trafod arian:

  • yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell a llai peryglus,
  • yn cynnal perthnasoedd personol cryfach,
  • yn helpu eu plant i ddysgu arferion arian cydol oes da,
  • yn teimlo dan lai o bwysau neu’n llai pryderus ac yn gallu rheoli eu materion yn well

Eich Un Peth ar gyfer Yr Wythnos Hon
Felly, beth yw’r un peth yr hoffem i chi ei wneud yn ystod yr Wythnos Sgwrsio am Arian hon? Mae’n syml: bwriwch olwg ar y canllawiau costau byw yng ngwefan MoneyHelper. Mae’r adnoddau hyn yn llawn dop o wybodaeth, awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i ddeall eich sefyllfa ariannol yn well a gwneud dewisiadau gwybodus.

Sesiynau Sgwrsio Galw Heibio Dydd Mawrth
Bob dydd Mawrth, rydym yn cynnal ein sesiynau galw heibio “Sgwrsio Dydd Mawrth” yma yn y swyddfa. Mae’n fan diogel lle gallwch drafod unrhyw gwestiynau neu bryderon yn ymwneud ag arian. P’un ai rydych yn chwilio am gyngor ynghylch cyllidebu, cynilo, buddsoddi, neu reoli dyled, mae ein tîm o arbenigwyr yma i’ch helpu.

Cysylltwch â ni am sgwrs os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch.