Mae’r adborth diweddar yn dweud wrthym fod yn well gennych ryngweithio â ni wyneb yn wyneb. Rydym wedi gwrando ac rydym yn ailddechrau’r ein digwyddiad Galw Heibio Cymunedol. Ein nod yw pontio unrhyw fylchau cyfathrebu a darparu mwy o gyfleoedd i chi ymgysylltu â ni.

Lleoliad: Canolfan Gymunedol Caerau, Woodlands Terrace, Caerau,
Maesteg CF34 0SR
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Hydref
Amser: 1:00 PM – 3:00 PM
Partneriaid: Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCOs) lleol

Bydd hwn yn gyfle perffaith i drafod unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch cartref. P’un ai fod gennych bryderon ynglŷn â gwaith atgyweirio, profiad o faterion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB), neu fod gennych ddiddordeb mewn archwilio’r opsiynau o ran symud neu drosglwyddo i gartref arall, rydyn ni yma i helpu. Mae ein tîm yn barod i wrando, i gynnig cyngor, ac i gydweithio i ddod o hyd i’r atebion sy’n cyd-fynd orau â’ch anghenion chi.

Bydd ein Tîm Tai Cymunedol ar gyfer eich ardal yno ‒ Sam Williams, Sue King a Kayleigh Cunningham. Bydd ein Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCOs) lleol yn partneru â ni ar gyfer y digwyddiad hwn. Ac yn y dyfodol, mae gennym gynlluniau i wahodd ein timau gwaith atgyweirio, incwm, cyngor ariannol, a hyb i gynnal sesiynau cymorth Galw Heibio Cymunedol.

Felly nodwch ddydd Llun nesaf, 30 Hydref ar eich calendrau. Ymunwch â ni yng Nghanolfan Gymunedol Caerau, lle byddwn yn rhannu paned o de neu goffi a sgwrsio gyda chi ynglŷn â sut brofiad yw byw yn eich cartref chi.