Ddydd Gwener diwethaf, daeth 230 o gydweithwyr at ei gilydd dan yr unto i ddathlu dau ddegawd o lwyddiannau anhygoel yng Nghymoedd i’r Arfordir. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi gwneud camau breision sydd wedi cael effaith barhaus:

  • Rydym wedi dod yn gymdeithas dai flaenllaw yng Nghymru, gan fynd i’r afael â digartrefedd trwy ddyrannu a datblygu gofalus.
  • Rydym ymhlith y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) gorau yng Nghymru am yr ôl-ddyledion rhent isaf, a heb orfod dwyn achos cyfreithiol.
  • Rydym wedi tyfu ein gweithlu, gan ddarparu cyfleoedd gwaith lleol gwerthfawr.
  • Rydym wedi cryfhau ein partneriaethau gyda rhanddeiliaid.
  • Rydym yn trawsnewid ein triniaeth o waith atgyweirio a chynnal a chadw trwy ein his-gwmni o dan berchnogaeth lwyr, sydd nawr yn dwyn yr enw Llanw.

Dechreuom y diwrnod drwy esbonio ein hymagwedd at CAC, a chawsom ein hanrhydeddu gan bresenoldeb y gŵr tra ysbrydoledig Colin Jackson. Roedd ei allu i ddweud storïau pwerus a’i neges am freuddwydio’n feiddgar yn gynhyrfus – gan ein hatgoffa y gallwn gyflawni unrhyw beth os ydym yn
ddigon penderfynol.

Ar ôl egwyl luniaeth haeddiedig, bwriom olwg arall ar ein hymddygiadau sefydliadol gan ddathlu’r timau a’r cydweithwyr sy’n ymgorffori’r ymddygiadau hyn yn eu gwaith bob dydd.

Ar ôl cinio, dadorchuddiwyd ein his-gwmni o dan berchnogaeth lwyr, “Llanw”, sef “Tide” yn Saesneg. Yn union fel y llanw, mae Llanw yn corffori dibynadwyedd, soletrwydd, adnewyddiad, cysondeb ac ymrwymiad diysgog. Mae’n symbol o’n haddewid i ymaddasu ac i ymateb i anghenion cyfnewidiol ein cwsmeriaid, yn union fel y byddwn yn ymaddasu i lanw a thrai’r môr.

Mae’r enw hefyd yn talu teyrnged i harddwch naturiol syfrdanol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ymgysylltu â’n henw, Cymoedd i’r Arfordir, am fod y llanw yn cynrychioli’r llif cyson o’r nentydd a’r afonydd yn ein cymoedd i’n harfordir.

I gloi’r diwrnod, rhannodd Anthony Whittaker, Cadeirydd ein Bwrdd, ei falchder wrth gael arwain yr ymdrechion i fynd i’r afael â digartrefedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cawsom ein tywys ar daith yn ôl mewn amser gan Peter Cahill, Prif Weithredwr cyntaf Cymoedd i’r Arfordir, wrth iddo esbonio’r
mantra y byddai’n ymglymu wrtho – MAD, Making a Difference, sef Gwneud Gwahaniaeth. Yn olaf, cyhoeddodd ein Prif Weithredwr, Jo Oak, fuddsoddiad gwerth £31.5 miliwn yn ein cartrefi, yr un mwyaf ers y trosglwyddiad.

Drwy gydol y diwrnod, clywsom gan ein cwsmeriaid a rannodd eu profiadau o fyw yn ein cartrefi dros yr 20 mlynedd diwethaf a’r hyn mae’r cartrefi hyn yn ei olygu iddyn nhw.

Diolch i bawb a gymerodd ran wrth ddathlu’r garreg filltir hon. Edrychwn ymlaen at 20 mlynedd arall o wneud gwahaniaeth a chael effaith gadarnhaol ar ein cymuned!