Byddwn yn dechrau dathlu ein 20fed pen-blwydd gyda thaith gerdded 20 cilometr elusennol. Mae’r digwyddiad yn rhan o’r her Heicio am Gartrefi, sy’n cynnwys 12 o gymdeithasau tai yng Nghymru, ac sy’n ceisio codi arian a chefnogi amrywiol elusennau ac achosion Cymreig.

Ar 27 Gorffennaf, bydd ein cydweithwyr ymroddgar yn gwneud taith gerdded heriol 20 cilometr o Gwm Ogwr i dref Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym wedi dewis cefnogi Y Bwthyn Newydd, sef gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol yn nhiroedd Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r gwasanaeth hanfodol hwn yn cynnig gofal a chymorth i unigolion sydd â chanser, eu teuluoedd, a’u gofalwyr, gan
fynd i’r afael â’u hanghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol.


Y Cymdeithasau Tai eraill sy’n cymryd rhan yn yr her genedlaethol hon gyda ni yw Melin Homes, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, Clwyd Alyn, Newydd, Cymdeithas Dai Sir Fynwy, Tai Calon, Cartrefi Conwy, Caredig, Bron Afon, Stori, ac RHA Cymru.

Meddai Cassie Jenkins, arweinydd ein taith gerdded yng Nghymoedd i’r Arfordir: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn yr her Heicio am Gartrefi genedlaethol dros achos mor fuddiol. Fel tîm rydyn ni’n cydnabod y rhan hanfodol mae Y Bwthyn Newydd yn ei chwarae ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”

“Mae Cymdeithasau Tai fel ein un ninnau yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pobl yn byw bywydau diogel a hapus, felly rydym yn falch iawn o gael cefnogi’r elusen hon sy’n rhannu cymaint o’n gwerthoedd fel sefydliad.”

Rydym bob un wedi cael cefnogaeth gan gorff masnach ein sector, Cartrefi Cymunedol Cymru, sydd wedi trefnu’r teithiau cerdded a galw ar arbenigwyr o’r cwmni meithrin timau arbenigol, Call of the Wild, a’r cwmni cyfreithiol Cymreig Hugh James i gynghori’r cyfranogwyr ar eu digwyddiadau.

Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru: “Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi a chyd-drefnu’r daith gerdded noddedig genedlaethol hon.

“Hoffem ddiolch i’r holl gymdeithasau tai a’u staff a fydd yn cymryd rhan yn y teithiau cerdded hyn, ac estynnwn ein dymuniadau gorau iddynt wrth iddynt gerdded, rhedeg, neu feicio’r pellter.


“Os gallwch noddi un o’r timau sy’n cymryd rhan, gwnewch hynny os gwelwch yn dda.”

Gall unrhyw un sydd eisiau cefnogi ein hymdrechion gyfrannu ar ein tudalen GoFundMe. Bydd yr holl dderbyniadau yn mynd yn syth i Y Bwthyn Newydd i gefnogi eu gwaith anhygoel yn y gymuned.