Mae’r gwaith o adeiladu 20 o gartrefi newydd ar safle hen Ysgol Blaenllynfi ar fin dechrau! I ddathlu’r garreg filltir bwysig hon, rydyn ni’n cynnal digwyddiad “Pâl yn y Ddaear”. Bydd y prynhawn yn llawn cynnwrf a hiraeth, a chawn olwg ar ddyfodol disglair ein cymdogaeth.

Bydd y digwyddiad hwn nid yn unig yn rhannu’r cynlluniau ar gyfer y cartrefi newydd ond hefyd yn gyfle i chi gyfrannu eich atgofion a’ch storïau ynglŷn â’r safle. Rydyn ni’n galw ar ein holl gwsmeriaid a phreswylwyr, yn rhai hen a newydd, i ddod at ei gilydd i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn
wirioneddol gofiadwy. Nodwch ddydd Mercher 12 Gorffennaf ar eich calendrau, rhwng 2:00 a 3:30 pm.

Meddai Robert Green, ein Pennaeth Datblygu ac Adfywio: “Rydym wrth ein bodd o gael dechrau adeiladu 20 o gartrefi newydd ar safle hen Ysgol Blaenllynfi mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, CBSP a Phendragon. Mae’r tîm wedi gwneud ymdrech anferth i gyrraedd y man hwn felly bydd y digwyddiad “Pâl yn y Ddaear” yn gyfle arbennig i ddathlu dechrau’r gwaith o drawsnewid y safle tir llwyd hwn. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni, i rannu eu hatgofion a chyfrannu at y tapestri cyfoethog o hanes a fydd yn llywio dyfodol y gymuned hon ‒ lle’r ydym yn gobeithio adeiladu cartrefi diogel a hapus i’r rhai hynny sydd eu hangen.”


Rydym hefyd yn eich gwahodd i ddod ag unrhyw hen luniau sydd gennych o’r safle cyn i’r ysgol gael ei dymchwel. Bydd eich hoff luniau ac atgofion yn chwarae rhan bwysig wrth gipio hanes ac ysbryd y lle.