Ar ddydd Mawrth 25 Ebrill 2023, creodd ein cydweithwyr ddarn o hanes ym Mhen-y-bont ar
Ogwr ar y cyd ag Ysgol Gynradd Hencastell a Hale Construction.


I ddathlu cwblhau cam olaf y gwaith adeiladu ar ein datblygiad tai newydd ym Mrocastell,
penderfynom nodi’r achlysur drwy wneud rhywbeth arbennig. Gydag chymorth y myfyrwyr yn
Ysgol Gynradd Hencastell, claddwyd capsiwl amser newydd wrth fynedfa Ffordd Melin
Ddŵr, gyda chyfarwyddiadau i’w agor yn y flwyddyn 2050.

Er mwyn ceisio creu ciplun ar fywyd yn 2023, roedd y capsiwl, a ddarparwyd gan y tîm yn
Hale Construction, yn cynnwys llawer o eitemau, er enghraifft nodiadau a chelfwaith gan
blant Ysgol Gynradd Hencastell, copi o bapur lleol yr wythnos hon, darnau arian a hyd yn
oed citiau profi COVID-19!

“Gan fod y gwaith adeiladu ym Mrocastell yn dod i ben, mae’n wych gweld ein holl waith
caled yn diweddu gyda’r syniad gwych hwn gan fyfyrwyr Ysgol Gynradd Hencastell. Roedd
yn bleser cael croesawu ein gwesteion o Hencastell i’r datblygiad a chawson ymweliad gan
Barney, ci llesiant yr ysgol hefyd!”

Judi Thomas, Swyddog Datblygu Cynorthwyol

Roedd Andrew Collins, Rheolwr Contractau Hale Construction, ar y safle i helpu’r myfyrwyr i
gladdu’r capsiwl, a dywedodd hyn am y digwyddiad: “Rydym yn falch iawn o helpu ein cleient Cymoedd i’r Arfordir i hwyluso’r digwyddiad hwn ar
ôl i blant ysgol lleol awgrymu eitemau o ddiddordeb i’w crynhoi yn y capsiwl amser. Gyda
chymorth plant yr ysgol, mae hwn bellach wedi’i gladdu a bydd yn aros yn y fan a’r lle dros y
27 mlynedd nesaf. Da iawn, bawb gymerodd ran!”

Gorffennwyd Cam Un o’n datblygiad diweddaraf yn Ffordd Melin Ddŵr, Brocastell, ym mis
Rhagfyr 2022 gan ganiatáu i deuluoedd gasglu eu hallweddi mewn union bryd ar gyfer y
Nadolig. Pan orffennir y Cam olaf mewn ychydig wythnosau, bydd y datblygiad yn cynnwys
25 o gartrefi newydd, sef 18 o dai, 6 fflat a chartref wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer pobl ag
anabledd.