Unwaith eto mae ein Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol wedi dangos eu hymrwymiad i roi nôl i’r gymuned drwy roddi Wyau Pasg i ward y plant yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae’r rhodd hael hon wedi dod a llawenydd a hapusrwydd mawr eu hangen i gleifion ifanc sydd ar hyn o bryd yn wynebu amserau heriol oherwydd salwch.

Mae’r Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol yn ffordd wych i gydweithwyr ymgysylltu a chael hwyl y tu allan i’r gwaith. Gydag amrediad cyffrous o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, mae’r aelodau yn elwa ar brisiau gostyngol ac yn cael cyfle i gymryd rhan yn y lotri diwrnod cyflog misol. Mae ymrwymiad y Clwb i elusennau a chyfranogiad cymuned yn un o’r rhesymau niferus pam mae hwn yn grŵp mor
wych i fod yn rhan ohono.

Meddai Howard Merrett, Cadeirydd y Grŵp Chwaraeon a Chymdeithasol, “Rwy’n ddiolchgar iawn i aelodau’r Clwb am eu cymorth wrth hwyluso’r rhodd hon. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi nôl i’r gymuned, ac rydym bob amser yn meddwl am ffyrdd newydd y gall elusennau gael budd o’r gwaith a wnawn.”

Yn ddiamau, bydd gweithred garedig y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol wedi rhoi gwên ar wynebau’r cleifion ifanc yn Ysbyty Tywysoges Cymru.