Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol ym mis Ebrill, rydym yn edrych yn ôl dros y 12 mis blaenorol i werthuso ein perfformiad. Mae hyn yn rhoi syniad i ni o’r hyn rydym yn ei wneud yn dda, lle rydym yn rhagori ar ein amcanion, yn ogystal â nodi’r meysydd sydd angen eu gwella, gan ein helpu i sefydlu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Er mwyn rhoi cipolwg clir i chi o’n perfformiad, rydym wedi adnewyddu ein Diweddariad Perfformiad. Mae’r adroddiad newydd yn rhoi trosolwg llawn gwybodaeth o’n cyflawniadau, gan ddefnyddio data o’r cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.

Our Performance 2022-2023 
***Excelling area
**Above target
*Needs improvement

Spotlight on: Repairs
94% repairs fixed first time***
17 days on average to complete a repair***
86% of emergency repairs completed within 24 hours *
Repairs backlog reduced from 3,673 to 774.

Safe and happy customers:
2,039 customers supported with financial advice. 
£1.3m additional income generated for customers***
13 days median time to respond to complaints*

Safe and happy homes
181 survey inspections completed***
77 days average re-let time for void properties*
75 new homes built.
209 adaptation requests fulfilled.
92% customer satisfaction in new homes.

Safe and happy places
£100k external grant funding facilitated in collaborative projects to improve the green infrastructure of our estates***
£40k external grant secured to future proof Heol y Cyw Community Hall***
300 trees planted in our communities.

From Valleys to Coast

Sylw ar: Atgyweiriadau

Gwyddom fod atgyweiriadau yn brif flaenoriaeth i’n cwsmeriaid, felly, yn yr adroddiad hwn, rydym wedi tynnu sylw at ein perfformiad atgyweirio. Gallwch weld ein bod wedi gwneud gwelliannau mawr ac wedi rhagori ar ein targedau mewn sawl maes. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod meysydd lle mae angen inni wneud yn well o hyd.

Mae’n wych gweld bod y rhan fwyaf o atgyweiriadau’n cael eu trwsio y tro cyntaf a bod yr amser cyfartalog i gwblhau atgyweiriad lawr i 17 diwrnod.

Mae’r cyflawniadau yma wedi ein galluogi i flaenoriaethu lleihau’r gwaith trwsio oedd yn cronni, etifeddiaeth y pandemig o’r adeg pan nad oeddem yn gallu cael mynediad i’ch cartref. Drwy ein rhaglen Turnaround, rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth fynd i’r afael â’r gwaith trwsio oedd yn cronni hwn, ac rydym yn ddiolchgar am eich amynedd a’ch dealltwriaeth drwy gydol y broses. Rydym wedi ymrwymo i wella’r maes hwn yn y flwyddyn i ddod.

Mae sicrhau bod atgyweiriadau argyfwng yn cael eu cwblhau yn flaenoriaeth, ac er mai ein targed yw 100%, mae’r ffigur a gofnodwyd ar hyn o bryd yn is na’r marc. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw’r gyfradd gwblhau hon yn golygu mai dim ond 86% o argyfyngau a’i cyflawni o fewn 24 awr. Mae yna nifer o achosion lle fod angen ymweliadau dilynol ac nid ydynt yn cael eu cyfri yn y metrig hwn. Gobeithiwn weld gwelliant yn y maes hwn y flwyddyn nesaf.

Ein prif bwrpas yw darparu cartrefi a lleoedd lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus ac rydym wedi gwrando pan ddywedoch wrthym nad ydych yn meddwl ein bod yn gwneud digon i ofalu am eich cartref.

Dyna pam rydyn ni’n meddwl mewn ffordd wahanol ac yn creu cwmni newydd, a fydd yn perthyn i ni 100%, i wella, tyfu a datblygu ein gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar eich cartrefi. Dysgu mwy.