Yr hydref hwn, rydyn ni’n ymuno â Choed Cadw i harddu Pen-y-bont ar Ogwr drwy blannu 300 o goed ar draws y sir.

Ein bwriad yw plannu coed yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed ond cyn i ni ddechrau, rydyn ni eisiau clywed eich barn ynglŷn â’r lleoliadau.

Dyma’ch cyfle chi i gymryd rhan! Llenwch ein ffurflen i weld y cynlluniau, roi eich barn a chofrestrwch os hoffech chi helpu i blannu’r coed. Mae’r tymor plannu coed yn rhedeg o Dachwedd i Fawrth, felly byddwn yn plannu’r coed ym mis Rhagfyr. Gallwch hefyd gweld y cynlluniau yma.

I gwrdd â’n targedau newid hinsawdd, mae angen o leiaf 1.5 miliwn hectar o goetiroedd ychwanegol yn y DU erbyn 2050 ac mae’n dipyn o dasg i gynnal ein safle bresennol hyd yn oed. Felly, gorau oll po fwyaf o goed o’r rhywogaethau cywir y gallwn eu plannu.

Bydd y coed yn ein helpu i gyrraedd ein nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030, ac i weithredu ein hymrwymiad parhaus i adfywio ein cymunedau lleol ac adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr well. Yn ogystal â’r buddion o ran cyfrannu at niwtraleiddio carbon, bydd y coed hefyd yn helpu i wella bioamrywiaeth a lleihau’r perygl o lifogydd.

Pa goed fydd yn cael eu plannu?

Byddwn yn plannu coed llydanddail brodorol. Y rhywogaethau yw: 

coed cyll, drain duon, coed afalau surion, ysgaw, marchfieri a chriafol, drain gwynion, bedw arian, masarn bach, ceirios duon, derw digoes a rhywfaint o helyg (rhywogaeth wlypdiroedd)

Daw pob coeden a blannwn o hadau a gyrchwyd ac a dyfwyd yn y DU. Dyma pam:

1. Hanfodol ar gyfer ein bywyd gwyllt

Byddai llawer o bryfed, adar ac anifeiliaid brodorol yn cael anhawster i oroesi heb y bwyd a’r lloches maen nhw’n eu darparu.

2. Haws i’w tyfu

Mae llawer o goed llydanddail brodorol yn gallu tyfu mewn mannau anodd gydag ychydig neu ddim gwrtaith.

3. Haws i’w cynnal

Mae planhigion lleol wedi ymaddasu i’r hinsawdd a’r priddoedd lleol ac yn aml mae angen llai o waith cynnal arnyn nhw.

4. Gwydn

Pan fyddant wedi ymsefydlu, gan amlaf mae planhigion brodorol yn gallu gwrthsefyll cyfnodau hir o dywydd sych.

5. Diogelu rhag plâu a chlefydau egsotig

Mae plannu coed sydd heb ddod o dramor yn un o’r ffyrdd symlaf a mwyaf effeithiol o ddiogelu coed rhag plâu a chlefydau newydd.

Cwestiynau Cyffredin

Ble fydd y coed yn cael eu plannu?

Mae’n bwysig meddwl am faint ac ymlediad mwyaf y coed a sut fyddwn ni’n defnyddio’r safle wrth i’r coed dyfu. Peidiwch â phlannu o dan goed presennol, gan fydd y cysgod a’r diffyg dŵr yn cyfyngu’n ddifrifol ar eu twf. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon pell oddi wrth y perthi presennol gan y gallai’r rhain fygu twf coed newydd, a gadewch fynediad at y berth ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.

Faint o le fydd rhwng y coed?

Bydd maint y bylchau’n dibynnu ar beth rydyn ni’n ei ddisgwyl gan y coed. Mae’n well plannu mewn llinellau tonnog ac amrywio’r bylchau ar draws y safle. Bydd hyn yn creu mwy o gydbwysedd rhwng lleiniau wedi’u plannu’n ddwys a lleiniau agored fel y byddant yn edrych ac yn teimlo’n naturiol. Plannwch grwpiau bach o’r un rhywogaethau gyda’i gilydd – bydd hyn yn helpu i leihau’r cystadlu rhwng gwahanol rywogaethau wrth iddyn nhw dyfu.

Dylech blannu’r coed tua dau fetr oddi wrth ei gilydd, ond gallech eu plannu 1-5 metr oddi wrth ei gilydd yn dibynnu ar y safle a’r cynllun.

Pryd fydd y coed yn cael eu plannu?

Dylai coed gael eu plannu pan fyddant ynghwsg ac yn llai tebygol o gael eu difrodi. Mae’r tymor plannu coed yn rhedeg rhwng Tachwedd a Mawrth.  

Bydd y coed yn y man hwn yn cael eu plannu ym mis Rhagfyr.

Sut fydd y safle’n cael ei baratoi?

  • Cyn dechrau plannu, byddwn yn defnyddio paent chwistrell i farcio’r man lle bydd pob coeden yn cael ei gosod 
  • Os bydd y mannau plannu wedi tyfu’n wyllt byddwn yn torri’r gwair ac yn chwynnu fel y bydd yn haws plannu ac i leihau’r gystadleuaeth am ddŵr, gan helpu’r glasbrennau i lwyddo.