Digwyddiadau Calan Gaeaf AM DDIM

Published on:

Mwynhewch y tymor arswydus!

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau Calan Gaeaf AM DDIM ym Mhen-y-bont ar Ogwr a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi’n galw heibio. Rydyn ni’n croesawu pawb i ymuno â ni, o blant bach i oedolion sy’n caru pob math o bethau dychrynllyd!

Ble byddwn ni:
Dydd Mawrth 25 Hydref, Canolfan Gymunedol Bryntirion a Threlales @ 3-5.30pm

Dydd Mercher 26ain Hydref, Canolfan Bywyd Betws am 2.30-5pm

Bydd cyfleoedd i chi a’r teulu ymuno yn y broses o greu ffon hud ar gyfer dewin neu wrach, addurno masg Calan Gaeaf, gwneud gwe pry cop a llawer mwy o weithgareddau celf a chrefft.  Bydd rhywun sy’n peintio wynebau hefyd yn ymuno â ni. 

Bydd y tîm Materion Ariannol ar gael i ateb eich cwestiynau ariannol. Bydd Kirsty o dîm Cymunedol Dogs Trust yn bresennol, i gefnogi perchnogion cŵn gyda chyngor ar dân gwyllt. Bydd cyfle hefyd i ennill popty araf.

Bydd cŵn poeth, byrgyrs, a the a choffi ar gael am ddim i’r rheini sy’n dod yno.

Byddwn yn cynnig danteithion Calan Gaeaf hefyd!

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.