Mae ein harolwg SEREN wedi cyrraedd! Eich cyfle chi i leisio’ch barn a
dweud wrthon ni beth ydych chi’n meddwl am y gwasanaethau a
ddarparwn.


Cynhelir yr arolwg mewn partneriaeth â Beaufort Research a bydd
llythyrau’n glanio ar garreg eich drws o ddydd Llun 12 Medi 2022.


Postiwch eich arolwg wedi’i lenwi yn defnyddio’r amlen barod a ddaw
gyda’r llythyr (dim angen stamp) a bydd pob aelwyd sy’n ei lenwi yn cael
ei gynnwys yn ein raffl am ddim.


Rydyn ni’n cynnig un daleb siopa gwerth £500 a phum taleb siopa gwerth
£100, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich arolwg atom cyn y
dyddiad cau, 3 Hydref 2022 (Telerau ac Amodau’r wobr yma).


Gwell gennych lenwi’r arolwg ar-lein? Cliciwch yma i lenwi’r arolwg SEREN
ar-lein.