Mae asbestos yn ddeunydd naturiol a ychwanegwyd at ddeunyddiau adeiladu yn y gorffennol.
Cafodd y defnydd o asbestos ei wahardd yn y DU yn 1999. Er nad yw cynhyrchion asbestos mewn cartrefi yn creu risg uchel yn aml, os cafodd eich cartref ei adeiladu cyn 1999, mae’n bosibl bod deunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn bresennol.
Nid yw asbestos yn anniogel oni bai fod y cynnyrch sy’n ei gynnwys yn cael ei ddifrodi ac wedi’i wneud o sylwedd sy’n rhyddhau ffibrau asbestos yn hawdd.
Gall dod i gysylltiad ag asbestos sydd wedi’i darfu achosi clefydau resbiradol difrifol a chanser.
Nid yw bob amser yn amlwg bod rhywbeth yn cynnwys asbestos wrth edrych arno, ond mae’r rhannau o’ch cartref lle gallai asbestos fod yn bresennol yn cynnwys:
● Caenau addurnol gweadog fel Artex
● Paneli bath a thanciau dŵr toiledau
● Teils llawr finyl
● Bocsys o gwmpas peipiau
● Pibellau carthion sment
● Nwyddau dŵr glaw sment (cafnau a pheipiau dŵr)
● Bondoeau ar doeon
● Dalennau toeon sment rhychiog
Rydyn ni’n rheoli asbestos yn saff yn ein hadeiladau.
Rydyn ni wedi cynnal arolygon asbestos yn yr holl fannau cymunol ac mae deunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn cael eu harolygu’n rheolaidd.
Os bydd unrhyw ddeunyddiau wedi’u difrodi, byddant yn cael eu hatgyweirio neu eu tynnu ymaith gan weithwyr proffesiynol cymwysedig. Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen cymryd samplau i sicrhau bod y gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau’n ddiogel.
Rydyn ni wrthi’n cynnal arolygon asbestos eiddo cyfan ar eiddo a adeiladwyd cyn 2000.
Rhowch groeso i’n hymgynghorwyr asbestos os byddant yn cysylltu â chi i gynnal arolwg.
● Peidiwch â chyffwrdd neu gael gwared â deunyddiau wedi difrodi a allai gynnwys asbestos.
● Os byddwch chi’n gweld deunyddiau wedi’u difrodi a allai gynnwys asbestos, rhowch wybod i’n Hyb atgyweirio ar 0300 123 2100. Mae’n anghyfreithlon i chi gael gwared â’r deunydd eich hun oni bai eich bod yn gymwysedig i wneud hynny.
● Peidiwch fyth â thrychu, llifio, drilio, torri neu sandio deunyddiau sy’n cynnwys asbestos.
● Gofynnwch am ein caniatâd cyn dechrau ar unrhyw brosiectau DIY neu wneud newidiadau yn eich cartref. Yna gallwn benderfynu a fydd presenoldeb asbestos yn effeithio ar eich gweithgareddau awgrymedig.