Mae lleithder yn yr aer bob amser, a gall hyn greu problemau yn eich eiddo pan fydd yr aer llaith hwn yn cael ei ddal.

Fel rheol, anwedd yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o leithder yn y cartref, ac fe fydd y rhan fwyaf o gartrefi yn cael eu heffeithio ganddo ar ryw adeg.

Lleithder – Mae hwn yn ymddangos pan fydd anwedd yn cael ei adael heb ei gyffwrdd ac ni all y gwlybaniaeth ddianc. Mae’n gyffredin mewn ystafelloedd sy’n wlyb iawn, fel ystafelloedd ymolchi, ond gall gael ei achosi gan ddiffygion strwythurol yn eich cartref os na chânt eu trin yn gyflym.

Llwydni – Ffwng sy’n ymddangos ar arwynebau fel dotiau duon ac sy’n ffynnu mewn lleoedd llaith a gwlyb gyda llif aer gwael. Gall ddod yn risg i iechyd os na chaiff ei reoli.

Anwedd – Pan fydd aer gwlyb, cynnes yn taro arwyneb oer, mae diferion o anwedd yn ymddangos. Mae coginio, golchi ac anadlu yn cynyddu’r lleithder yn yr aer, gan achosi anwedd. Efallai y byddwch yn sylwi arno ar y drych ar ôl cawod, neu ar ffenestri. Gall tywydd oer a llif aer gwael wneud pethau’n waeth. Mae anwedd yn naturiol, ond gallwch gymryd camau i’w leihau ac atal lleithder.

A ydych wedi sylwi ar arwyddion o leithder neu lwydni yn eich cartref? Ffoniwch ni ar 0300 123 2100 neu rhowch wybod ar-lein. Byddwn yn anelu at eich helpu o fewn 24- 48 o oriau gwaith.

Beth fyddwn ni’n ei wneud i helpu

Os ydych wedi rhoi gwybod i ni am broblem, byddwn yn anfon rhywun i weld beth allai fod yn achosi’r broblem. Byddwn yn edrych am bethau fel nam yn y to neu waith brics, pibell yn gollwng, neu’n gwirio i weld a yw’r cwteri wedi’u blocio. Os oes problem, byddwn yn trefnu atgyweiriad neu dfrenu awyru ychwanegol cyn gynted â phosibl.

Sut i adnabod anwedd a lleithder

Mae anwedd yn ymddangos mewn amrywiol ffyrdd:

– Papur wal yn dechrau newid lliw/staenio neu efallai ag arogl llwydni.
– Mannau llaith ar y waliau.
– Anwedd ar ffenestri neu waliau.
– Llwydni yn dechrau ymddangos ar nenfydau, waliau, a fframiau ffenestri.
– Gall gollyngiadau na chânt eu trwsio hefyd achosi lleithder a llwydni.

Fodd bynnag, nid yw pob lleithder yn dechrau yn yr un modd, ac nid anwedd yw’r prif achos bob amser – os oes staeniau’n dechrau ymddangos ar draws eich waliau, gallai hyn fod yn arwydd o leithder treiddiol.

Gall hyn gael ei achosi gan rendr wedi cracio, peipiau dŵr, cafnau diffygiol, neu do sydd wedi’i ddifrodi.

Gall lleithder codi ddigwydd ar y llawr gwaelod hefyd, ac mae’n gadael ‘llinell lanw’ o leithder sy’n symud i fyny o’r ddaear a thrwy’r waliau. Mae hyn yn digwydd pan nad oes cwrs gwrthleithder (DPC) yn yr eiddo, neu os yw’r DPC wedi methu.

Yn y lle cyntaf, y peth gorau bob amser yw rhoi gwybod i’r Hyb am y problemau hyn, fel y gallant drefnu i Syrfëwr ymweld â’ch eiddo a chynnal archwiliad mewnol ac allanol i ddatrys eich problemau lleithder.

 

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Mae tair prif elfen i’w hystyried wrth geisio lleihau anwedd yn eich cartref:

1. Faint o anwedd dŵr sy’n cael ei gynhyrchu yn yr eiddo
2. Pa mor oer neu gynnes yw’r eiddo
3. Pa mor dda y mae aer yn llifo o amgylch yr eiddo

Os byddwch yn cael gwared ag achosion anwedd, rydych yn cael gwared â’r
problemau posibl gyda llwydni.

I’w gwneud

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r Hyb am unrhyw leithder neu lwydni rydych yn ei brofi ar 0300 123 2100.
  • Agorwch eich ffenestri wrth goginio, cael cawod neu fath i ganiatáu llif aer da.
  • Sychwch unrhyw anwedd a all ymgasglu ar ôl i chi gael cawod neu fath.
  • Gadewch fylchau rhwng dodrefn a’r wal (fel eich soffa) i ganiatáu llif aer.
  • Cadwch eich ffaniau echdynnu ymlaen drwy’r amser i sicrhau bod cymaint o leithder â phosibl yn cael ei dynnu o’ch eiddo (Cost gyfartalog rhedeg ffaniau yw £3.68 y flwyddyn mewn ystafell ymolchi, a £9.81 mewn cegin).
  • Sicrhewch eich bod yn cadw eich cartref ar tua 18-20 gradd yn gyson. Gall gwres ‘cefndir’ pan fydd y tywydd yn oer gadw’r tymheredd yn sefydlog.

Peidiwch  Gwneud

  • Peidiwch â gadael y llwydni heb ei gyffwrdd a chaniatáu iddo ledaenu ymhellach.
  • Peidiwch â sychu eich dillad ar reiddiaduron yn rheolaidd.
  • Peidiwch â blocio brics aer allanol neu fentiau ffenestr – mae’r rhain yn
    hanfodol ar gyfer llif aer da ac yn lleihau’r siawns o anwedd ar eich
    waliau.
  • Peidiwch â llenwi eich atig ag eitemau oherwydd gall hyn gyfyngu ar y llif aer ac amharu ar inswleiddio.
  • Peidiwch â defnyddio paent nad yw’n benodol i’r ystafell rydych yn ei
    haddurno – os byddwch yn defnyddio paent safonol ar wal sydd wedi’i thrin am lwydni, mae hyn yn niwtraleiddio’r cemegion gwrth-lwydni. Paent cegin, ystafell ymolchi neu baent gwrth-lwydni sydd oraubob amser.
  • Peidiwch â chael gwared ar lwydni gyda brwsh neu sugnydd llwch, oherwydd gall hyn ledaenu sborau ymhellach.

 

 

 

 

 

 

 

Darllenwch ein taflen lleithder a llwydni
Cysylltwch â ni (Link opens in new window)

Ffeindiwch allan sut y gallwch gysylltu i roi gwybod am broblem yma.

Costau Rhedeg Offer

Nid yw cost rhedeg yr offer hyn mor uchel ag y gallech feddwl.

Gall ffaniau echdynnu hŷn fod yn sylweddol llai effeithiol na rhai modern – os ydych yn meddwl bod angen adnewyddu eich un chi, rhowch wybod i’r Hyb.

Bydd glanhau eich ffaniau echdynnu hefyd yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau bod y lleithder yn cael ei sugno allan o’r ystafell y mae ynddi.

Bydd cadw eich ffan echdynnu ymlaen yn arbed arian yn y tymor hir gan ei bod yn amddiffyn eich cartref rhag difrod a gwaith atgyweirio costus.

Mae’r ffan echdynnu Cyclone 7 (Envirovent) yn costio ond £3.68 y flwyddyn pan fydd mewn ystafell ymolchi, a £9.81 y flwyddyn pan fydd wedi’i gosod mewn cegin.