Prentisiaethau

Yn unol â’n hamcan strategol i ddatblygu a chefnogi Cydweithwyr Diogel a Hapus, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth ledled y sefydliad.  Ein nod yw darparu cyfleoedd i bobl sy’n dechrau yn eu gyrfaoedd a’r rheiny sy’n ceisio newid llwybr eu gyrfa neu uwchsgilio mewn maes gwahanol. 

Rhaglen ddatblygu neu hyfforddi a gynlluniwyd i wella gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau yw prentisiaeth. Mae prentisiaid mewn cyflogaeth gyflogedig ac mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith (fel arfer â chymorth darparwr hyfforddiant trydydd parti). Fel arfer, bydd prentisiaethau yn para un i ddwy flynedd.

Caiff ein holl swyddi gwag ym maes prentisiaethau eu hysbysebu trwy ein gwefan. Cofrestrwch ar gyfer hysbysiadau swydd yma!

Cyfle Building Skills logo
Cynllun prentis Sgiliau Adeiladu Cyfle (Link opens in new window)

Rydym wedi lansio partneriaeth â Sgiliau Adeiladu Cyfle a fydd yn creu mwy o gyfleoedd prentisiaeth a gwaith yn ein cymunedau.

Mae Sgiliau Adeiladu Cyfle yn gynllun prentisiaeth a rennir sydd wedi cyflogi mwy na 650 o brentisiaid hyd yma, gan ei wneud yn gynllun prentisiaeth a rennir mwyaf y DU. Ar hyn o bryd yn Ne-orllewin Cymru yn unig, bydd y cydweithrediad newydd yn golygu eu bod yn ymestyn yr hyn maent yn ei gynnig i Ben-y-bont ar Ogwr.

Dymunwn adeiladu ar ein cynlluniau prentisiaethau presennol, a chynyddu nifer y prentisiaid sy’n gweithio i ni’n uniongyrchol, yn ogystal â nifer y rheiny sy’n gweithio â’r contractwyr rydym yn eu cyflogi.

Profiad gwaith (Link opens in new window)

Cefnogwn nifer o raglenni sy’n ceisio pontio’r bwlch i’r rheiny sy’n dod i mewn i’r gweithlu am y tro cyntaf neu’n chwilio am newid gyrfa. Mae’r rhain ar ffurf lleoliadau profiad gwaith wedi’u cefnogi gan drydydd partïon fel Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. Os oes gennych ddiddordeb mewn lleoliad profiad gwaith â ni, anfonwch neges e-bost!

Ysgoloriaethau Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn gweithio’n agos â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi eu hysgoloriaeth sy’n cyflwyno cyfleoedd arloesol a rhyfeddol i ddatblygu llwybrau gyrfa myfyrwyr.

Cynigir ysgoloriaethau trwy Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn y meysydd canlynol:

  • Adeiladu
  • Creadigol
  • STEM
  • Arweinwyr Benywaidd
  • Cymraeg
  • Menter a Dechrau Busnes

Caiff yr ysgoloriaeth ei chynnig yn flynyddol ac mae’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr fynd i mewn i’r gweithle ochr yn ochr â’u hastudio. Gallwch ddysgu mwy am raglen Ysgoloriaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yma.