Gloywi ein cymdogaethau

Rydym wedi gweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i gynyddu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. O brosiectau peilot y ddôl, parthau dim torri gwair, i blannu 300 o goed yn y sir.

  • Coed Cadw
  • Prosiect Cysylltiadau Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhwydwaith Natur Cwm Taf
  • Plantlife Cymru

Mannau Gwyrdd Cymunedol

Rydym yn gweithio’n agos â grwpiau cymunedol sy’n gweithio i wella eu mannau gwyrdd lleol.

Os ydych yn grŵp cymunedol ac yn pendroni sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch!

Anfonwch e-bost nawr
Cymru Gynnes (Link opens in new window)

Mae Cymru Gynnes, cwmni buddiannau cymunedol cyntaf Cymru, yn gweithio i liniaru tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaethau.

Rydym yn falch iawn i gadarnhau y dyrannwyd gweithiwr cymorth cyngor ynni penodol i ni hyd fis Mehefin 2023, a’i rôl fydd gweithio â chwsmeriaid i ddarparu cyngor ynni, cymorth ac arweiniad o ran cynhesrwydd fforddiadwy.

Cymunedau Digidol Cymru (Link opens in new window)

Mae CDC yn ceisio lleihau allgau digidol yng Nghymru. Mae eu gwaith yn helpu i sicrhau bod pobl Cymru yn meddu ar y sgiliau, y mynediad a’r cymhelliant i fod yn ddefnyddiwr technoleg ddigidol yn hyderus.

Mae gen i syniad (Link opens in new window)

Oes gennych awgrym o rywbeth yr hoffech ei weld yn eich cymuned? Ewch i’n tudalen Ymgysylltu â Chwsmeriaid i ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan.

Sut mae adrodd ar broblem yn fy nghymuned?

Gallwch gysylltu â’n Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid ar-lein, dros y ffôn, neu drwy e-bost.