Yr wythnos diwethaf, cawsom ein hanrhydeddu yn seremoni wobrwyo fawreddog y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) i gan ddathlu buddugoliaeth a dau enwebiad am ein hymrwymiad i ragoriaeth ym maes tai!
Roeddem mor falch o weld ‘I’m In’ yn ennill y wobr am yr ymgyrch orau, ac roedd hi’n arbennig o bleserus cael mwynhau’r foment ar y cyd â rhai o’r cwsmeriaid a helpodd i ysgogi’r ymgyrch!
Dros 1,500 o leisiau yn llunio’r dyfodol
Lansiom yr ymgyrch ym mis Mehefin fel rhan o’n hymrwymiad newydd i leisiau cwsmeriaid a chymunedau. Mae’n nodi cyfnod newydd o gynnwys cwsmeriaid wrth lunio dyfodol Cymoedd i’r Arfordir trwy gynnig dewis o ffyrdd i gwsmeriaid rannu eu barn.
Hyd yn hyn, rydym wedi cael dros 1,500 o ryngweithiadau uniongyrchol â chwsmeriaid ar draws sawl sianel, ac wedi lansio panel cwsmeriaid lle gall cwsmeriaid a chydweithwyr drafod ein cynlluniau gyda’i gilydd. Ac mae barn ein cwsmeriaid eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr! Gallwch ddarllen am y gwelliannau a wnaethom i’n gwasanaethau yn sgil yr adborth a roddwyd yn ein paneli yma.
Dywedodd Laura, ein Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu:
“Mae ein hymgyrch ‘I’m In’ yn ymwneud â grymuso cwsmeriaid Cymoedd i’r Arfordir i gymryd rhan – y syniad oedd newid y ddeinameg o ofyn i gwsmeriaid ein helpu ni, i sefyllfa lle roedden nhw eisiau bwrw ati i ymgysylltu a chyfrannu. Dyna’n union beth ddigwyddodd. Ers y lansiad ym mis Mehefin, mae ein Panel Cwsmeriaid newydd wedi mynd o nerth i nerth ac rydym wedi gweld wynebau newydd yn ymuno â’n hwynebau cyfarwydd – gan wneud ffrindiau newydd, a gwneud gwahaniaeth.”
Eisiau rhannu eich barn a bod yn rhan o’r newid? Ymunwch heddiw!
Y tu hwnt i’r enwebiadau…
Roeddem hefyd wrth ein bodd o gael ein henwebu am y gwobrau ‘Rhagoriaeth wrth Hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth’ a ‘Menter Gymunedol y Flwyddyn’. Dyma gipolwg ar ein gwaith a’i effaith yn y categorïau hyn:
Rhagoriaeth wrth Hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
I greu gwasanaeth mwy cynhwysol, eleni rydym wedi:
Sefydlu man llesiant newydd yn y swyddfa.
Cynyddu swm y data EDI cwsmeriaid a gasglwyd o 48% i 71%.
Dechrau gweithio tuag at wobr QED Tai Pawb, gyda 53 o enghreifftiau o arfer da wedi’u cydnabod – y nifer uchaf ymhlith cymdeithasau tai!
Dywedodd Mel Thomas, ein Swyddog Prosiect, sy’n arwain ein gwaith ar gyfer y wobr QED: “Rwyf mor falch ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae’n gydnabyddiaeth bwerus o’r gwerthoedd y mae ein cydweithwyr yn gweithio tuag atynt bob dydd.”
Menter Gymunedol y Flwyddyn
Trwy ein rhaglen Twf er Daioni, rydym yn troi tir a danddefnyddir yn fannau agored bywiog. Yn 2025, fe wnaethom greu dwy goedwig fach a lansio tri hyb tyfu bwyd cymunedol, gan ddarparu lle tyfu hygyrch i breswylwyr o bob oed. Dywedodd un preswylydd diolchgar: “Yn aml iawn os byddwch chi’n mynd heibio’r ardd, byddwch chi’n clywed chwerthin. Rwy’n ei weld fel ein man hapus.”
Dywedodd Rachel Lovell, ein Pennaeth Adfywio: “Rwy’n falch iawn bod ein prosiect Twf er Daioni wedi cael ei gydnabod am y ffordd y mae wedi cefnogi uchelgeisiau ein cymunedau ac wedi mynd i’r afael â’u hangen am fwy o fannau cymunedol hygyrch. Rydym yn gyffrous am gam nesaf Twf er Daioni, gan ddechrau gyda thrawsnewid Coedwig Melin Ifan Ddu.”
Rydym mor falch o’n tîm a’r cymunedau sy’n sicrhau bod ein gwaith mor ystyrlon. Mae cael ein cydnabod yn y gwobrau hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad i ymgysylltu, cynhwysiant, a meithrin Pen-y-bont ar Ogwr fwy bywiog.