Rydym yn trawsnewid Coedwig Melin Ifan Ddu

Published on:

Mae ein prosiect Twf er Daioni (Growth for Good) eisoes wedi trawsnewid mannau a danddefnyddir ar draws Pen-y-bont ar Ogwr yn erddi cymunedol bywiog a choedwigoedd bach. Diolch i’ch adborth chi, rydym wedi cael mwy o gyllid ac mae gennym fwy o gynlluniau cyffrous ar y gweill, gan ddechrau gyda gwaith adfywio sylweddol ar y goedwig ym Melin Ifan Ddu!

Pam coedwig?

Mae Twf er Daioni yn ymrwymiad hirdymor gennym i adfywio coedwigoedd, tyfu bwyd, a chynnwys y gymuned.

Yn ôl Coed Cadw, mae coedwigoedd yn lleihau straen, yn gwella hwyliau, ac yn rhoi hwb i’r system imiwnedd. Dywedant fod tro yn y coed “yn gwbl brofedig yn helpu i gadw eich pwysedd gwaed i lawr o gymharu â melin draed dan do neu strydoedd prysur y ddinas.”

Mae coed yn ymladd llygredd trwy amsugno carbon deuocsid a’i storio, gan ei gadw allan o’r atmosffer. Maent hefyd yn amsugno dŵr glaw, sy’n helpu i atal llifogydd.

Trwy ofalu am ein coedwigoedd a’n mannau gwyrdd, rydym yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal cymunedau diogel a hapus ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y nodweddion allweddol

Llwybr cyhoeddus hygyrch adferedig sy’n rhedeg trwy’r coed.

Llwybr natur gyda seddi cymunedol a chodau QR y gallwch eu sganio wrth i chi gerdded i ddysgu am y fflora a’r ffawna.

Meithrinfa goed i gynaeafu a chadw hadau derw prin lleol.

Sefydlu grŵp ‘Cyfeillion Coedwig Melin Ifan Ddu’.

Byddwn hefyd yn partneru â Choleg Pen-y-bont i ddadansoddi mathau lleol o dderw, ac yn caniatáu i ysgolion lleol a grwpiau Dechrau’n Deg gael mynediad addysgol i’r goedwig.

Y prifffeithiau

Ariannir y prosiect £249,950 gan y cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG).

Fe’i darperir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Rhagfyr 2025 ac ymhen dwy flynedd, gobeithiwn ailagor y goedwig yn ddiogel ar ôl blynyddoedd o ordyfiant a mynediad anodd.

Cymerwchran!

Mae preswylwyr eisoes wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio’r prosiect, trwy rannu atgofion plentyndod o’r goedwig yn ystod ymgynghoriadau a mynegi eu cyffro ynglŷn ag ailgysylltu â’r man hwn.

Dywedodd Rachel Lovell, Pennaeth Adfywio ac Arweinydd y Prosiect: “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag adfer coedwig leol werthfawr ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’r gymuned, partneriaid a grwpiau lleol i adfywio Coedwig Melin Ifan Ddu.”

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am gymryd rhan yn y prosiect, e-bostiwch Rachel Lovell, Pennaeth Adfywio, yn rachel.lovell@v2c.org.uk.