Ein nod yw sicrhau eich bod chi – ein cwsmeriaid – yn teimlo’n ddiogel, bod eich llais yn cael ei glywed, a’ch bod yn cael eich cefnogi. Drwy ein hymrwymiad llais y Cwsmeriaid, rydym yn dod i’ch adnabod yn well ac yn gosod eich llais chi wrth wraidd ein penderfyniadau. Felly, rydym yn crwydro’r strydoedd yn rheolaidd i gwrdd â chi wyneb yn wyneb, a mwynhau sgwrs wrth gerdded.
Y mis diwethaf, fe gynhaliom ‘Walkabout Wednesday’ ar Ystad Tudor, Maesteg. Cerddodd aelodau o’n Tîm Gweithredol, ynghyd â Huw Irranca-Davies MS/AS a chydweithwyr o bob rhan o’r busnes, o amgylch yr ystâd i gwrdd â thrigolion a chlywed yn uniongyrchol beth sydd o’r pwys mwyaf iddyn nhw.
Am dro gwerth chweil!
- Fe gofnodom bedwar eitem o waith atgyweirio.
- Fe glywsom beth mae pobl eisiau ei glirio yn ein digwyddiad #CaruEichStryd ar 3 Rhagfyr.
- Roedd cydweithwyr o’r timau Tai, Incwm, Ymgysylltu, a Pherchnogaeth Cartref allan yn sgwrsio ac yn cynnig cymorth.
- Fe gasglom bedair set newydd o ddata Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), gan ein helpu i gefnogi ein cwsmeriaid yn well.
- Fe fwynhasom ddanteithion melys gan y Bakehouse Brew!
Rydyn ni bob amser yn falch o weld partneriaid lleol, cynghorwyr, a sefydliadau cymunedol yn dod draw i’n digwyddiadau – felly, boed cwsmer neu aelod o’r gymuned, mae croeso i chi yn y digwyddiadau isod! E-bostiwch ni yn customervoice@v2c.org.uk fel y byddwn yn eich disgwyl!
Y Grŵp Llais Cyfartal
Dydd Mercher 26 Tachwedd, 12 pm – 3 pm Tŷ Bryngarw
Rydym yn lansio ein Grŵp Llais Cyfartal newydd sbon i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, yn enwedig pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, siaradwyr Cymraeg, neu’r rhai nad ydynt wedi ymgysylltu â ni o’r blaen. Cyswllt: mel.thomas@v2c.org.uk | 07867 553804
Sesiynau Crefft y Nadolig – Plant ac Oedolion
Rydym yn partneru â Fern Botanicals ar gyfer sesiynau crefft y Nadolig. Bydd y plant yn gwneud anrhegion a’r oedolion yn creu gwydrau Nadoligaidd.
24 Tach, 5–6:30 pm – Canolfan Ambiwlans Sant Ioan, Stryd Minerva, Bracla (Plant)
8 Rhag, 10–11:30 am – Neuadd Lesiant Pencoed (Oedolion)
10 Rhag, 10–11:30 am – Tafarn Gymunedol y Three Horse Shoes, Cefn Cribwr (Oedolion)
Digwyddiad Ymgysylltu Tŷ Wyndham
3 Rhagfyr, 4–7 pm Tŷ Carnegie Byddwn yn sgwrsio â’r cyhoedd a rhanddeiliaid am ddyluniad ffasâd allanol newydd yr adeilad, a’r ffyrdd y bydd yr ailddatblygiad o fudd i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
#CaruEichStryd, Ystad Tudor
3 Rhagfyr, 9:30 am – 2:30 pm. Beth am ddod at ein gilydd i dacluso’r strydoedd!