Mae gennym wybodaeth bwysig i’w rhannu gyda chi am ein blaenoriaethau WHQS – sef sut y byddwn yn buddsoddi mewn gwella eich cartref.

Mae WHQS yn golygu Safon Ansawdd Tai Cymru – safon gyfreithiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru y mae’n rhaid i ni ei bodloni a’i chynnal o ran cyflwr eich cartref.

Yn gryno, nod y WHQS yw sicrhau eich bod yn cael y cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd da, sydd mewn cyflwr da, sy’n saff ac yn ddiogel, sy’n fforddiadwy i’w gynhesu, sy’n gyfforddus ac sydd â chyfleusterau sy’n addas ar gyfer bywyd modern.

Rydym yn cymryd WHQS o ddifrif, ac rydym yn gwybod nad yw cyflwr nifer o’n cartrefi cystal ag y byddem yn dymuno. Er ein bod yn blaenoriaethu buddsoddi mewn cynnal a chadw, mae’n anodd weithiau oherwydd trefniadau ariannu hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i’r amser pan gawsom ein ffurfio fel cymdeithas dai trosglwyddo stoc yn 2003.

Y ni yw’r unig gymdeithas dai yng Nghymru nad yw’n derbyn cronfa gynnal a chadw barhaus i fuddsoddi yn ein cartrefi (a elwir yn waddol), ac roedd y gwaddol cyfnod cyfyngedig a dderbyniom yn sylweddol llai na’r hyn y llwyddodd cymdeithasau trosglwyddo stoc eraill a ffurfiwyd ar ein hôl ni i’w negodi. Mae hynny’n golygu, o gymharu ag eraill yn ein sector, ein bod wedi cael £56 miliwn yn llai o gyllid ers 2003. Felly mae’n rhaid i ni feddwl yn wahanol am sut rydym yn rheoli ac yn buddsoddi yn eich cartrefi.

O ganlyniad i reoli cronfeydd, benthyciadau a grantiau’n ofalus, mae’n dda gennym allu neilltuo £172 miliwn i’w fuddsoddi mewn codi eich cartrefi i safon foddhaol dros y 10 mlynedd nesaf.

Bydd hon yn rhaglen waith fawr ar draws y rhan fwyaf o’n 6,000 o gartrefi, a byddwn yn blaenoriaethu gwaith sy’n sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn sych.

Rydym am fod yn onest gyda chi – yn anffodus, mae hyn yn golygu y gallai peth o’n gwaith gwella cynlluniedig gael ei ohirio. Byddwn yn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn sych cyn i ni symud ymlaen at welliannau cosmetig neu uwchraddio pethau (fel eich cegin a’ch ystafell ymolchi).

Byddwn yn delio â phryderon diogelwch a llesiant yn gyntaf. Pethau fel: lleithder, llwydni a chyddwysiad; systemau gwresogi neu inswleiddio gwael sy’n golygu eich bod yn rhy oer neu’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau; materion diogelwch tân fel larymau mwg a llwybrau dianc; materion strwythurol fel toeau neu waliau wedi’u difrodi; a mannau lle gallech faglu neu syrthio – er enghraifft, eich grisiau, grisiau’r ardd neu waliau gardd isel.


Bydd ein ffocws wedyn yn troi at foderneiddio ac uwchraddio nodweddion fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi (pan fydd yn amser eu hadnewyddu yn ôl ein cofnodion).

Rydym yn deall y gallai hyn fod yn siomedig, yn enwedig os ydych wedi siarad â ni am welliannau cosmetig neu waith uwchraddio yn eich cartref. Os yw eich manylion ar gofnod gennym, byddwn yn cysylltu i roi darlun cliriach i chi o bryd y gallwch ddisgwyl i’r gwaith hwn gael ei wneud.

Yn bwysig, rydym am eich sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn sych, fel y gallwch fyw’n gyfforddus mewn cartref y gallwch ei fwynhau a’i fforddio.

Os nad ydym eisoes wedi gwneud hynny, efallai y byddwn yn cysylltu â chi cyn hir i drefnu arolwg o’ch cartref o’r brig i’r gwaelod (rhywbeth rydym yn ei alw’n ‘arolwg cartref cyfan’) – bydd hyn yn ein helpu i nodi pa waith sydd ei angen ar eich cartref fel y bydd yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Os ydych yn poeni neu’n pryderu am unrhyw beth yn eich cartref y teimlwch y gallai fod yn anniogel, peidiwch ag aros i ni gysylltu â chi – rhowch wybod i ni am y pryderon hyn cyn gynted ag y gallwch ar 0300 123 2100.

Os oes angen cysylltu â ni y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch yr un rhif a byddwch yn cael eich cysylltu â llinell ymateb brys.

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth – ein nod yw gwneud pethau’n iawn, cyn i ni wneud pethau’n well.