Mae heddiw yn nodi dechrau’r Wythnos Gynhwysiant Genedlaethol, ac mae thema eleni – ‘nawr yw’r amser’ – yn pwysleisio’r angen am weithredu. Beth mae cynhwysiant yn ei olygu – a pham mae’n bwysig?
Mae cynhwysiant yn golygu creu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu croesawu, eu parchu a’u gwerthfawrogi. Mae teimlo eich bod yn cael eich cynnwys yn bwysig i’n llesiant, ac rydym i gyd yn haeddu teimlo ein bod yn perthyn.
Mae blaenoriaethu cynhwysiant yn Cymoedd i’r Arfordir yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch, a’n bod yn diwallu anghenion personol pobl. Mae hyn yn ein helpu i gefnogi ein cwsmeriaid yn well ac i wella eu hansawdd bywyd.
Er ein bod yn tynnu sylw’n benodol at gynhwysiant yr wythnos hon, mae wedi bod yn ffocws canolog i ni drwy gydol y flwyddyn wrth i ni weithio tuag at ddyfarniad Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (QED) Tai Pawb.
Mae’r dyfarniad yn nod ansawdd i sector tai Cymru, gan ddarparu fframwaith i weithio tuag ato er mwyn gwneud ein sefydliad yn gynhwysol i gydweithwyr a chwsmeriaid. Felly, sut ydyn ni’n dod yn ein blaenau hyd yn hyn?
Dyma sut rydym yn gwneud ein gwasanaethau’n fwy cynhwysol i chi:
- Rydym wedi ychwanegu offeryn hygyrchedd at ein gwefan fel bod pobl â nam ar eu golwg, neu’r rhai sydd angen darllen y wefan mewn iaith arall, yn gallu rhoi gwybod am atgyweiriadau a dod o hyd i wybodaeth yn hawdd. Yn syml, cliciwch ar y botwm glas gyda pherson ynddo ar frig ochr dde eich sgrin i weld y ddewislen.
- Rydym wedi dechrau cynhyrchu ein taflenni gwybodaeth yn Gymraeg fel y gall cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
- Rydym wedi lansio panel cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gyda mewnbwn cwsmeriaid.
- Rydym wedi casglu data EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant) gan dros 2,000 o gwsmeriaid i ddysgu mwy am sut y gallwn deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion penodol. Dyma sut y gwnaethom hyn i un cwsmer yn ddiweddar:
“Cefais waith atgyweirio wedi’i wneud yn ddiweddar ac roedd y crefftwr mor hyfryd. Esboniais fod fy mab yn awtistig ac roedd yn deall yn llwyr ac yn rhyngweithio ag ef mewn ffordd gyfeillgar iawn. Roedd y dyn i fod i fynd adref am 5 ond fe arhosodd i newid handlenni fy ffenestri i’w gwneud yn fwy diogel i fy mab, oedd yn eu hagor drwy’r amser. Byddai hyn yn gwneud i mi deimlo’n bryderus gan ein bod ar y llawr uchaf.” – Rebecca
Mae cael adborth twymgalon fel hwn yn ein hatgoffa ein bod ar y llwybr iawn!
Nid ydym wedi anghofio am ein cydweithwyr!
- Rydym yn darparu offer penodol i gydweithwyr â nam ar eu golwg neu eu clyw a symudedd cyfyngedig.
- Rydym wedi cefnogi cydweithwyr i gael diagnosis o ADHD, fel eu bod yn cael yr help sydd ei angen arnynt yn y gweithle.
- Rydym wedi gwneud y trefniad pythefnos naw diwrnod yn barhaol yn dilyn cyfnod treialu llwyddiannus, fel y gall cydweithwyr gymryd amser ychwanegol i ddilyn hobïau personol os ydynt am optio i mewn.
- Rydym wedi dechrau darparu teganau ffidlan mewn digwyddiadau a chynadleddau i gydweithwyr i bobl a allai gael anhawster wrth ganolbwyntio.
- Rydym yn parhau i ddarparu lleoedd parcio i bobl anabl a thoiledau rhywedd-niwtral.
Y ffordd ymlaen
Mae’r Wythnos Gynhwysiant Genedlaethol yn rhoi eiliad i ni fyfyrio ar ein cynnydd, ond mae ein gwaith ymhell o fod ar ben. Rydym yr un mor ymrwymedig i hyrwyddo ein dull EDI ag erioed!