Fel rhan o’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y mis hwn, cyhoeddom ein Datganiadau Ariannol ar gyfer 2024/25. Mae’r brif neges yn syml: rydym mewn sefyllfa ariannol gref, sy’n golygu y gallwn barhau i fuddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau gwell, gan adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr well. Dyma’r pwyntiau allweddol:

  • Diweddom y flwyddyn gyda £50.7 miliwn mewn asedau net, sef ein “rhwyd ddiogelwch” ariannol.
  • Gwnaethom warged o £901,000, sy’n cael ei ail-fuddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau (nid elw).
  • Estynnom ein Cyfleuster Credyd Cylchol o £15m i £45m, gan roi mwy o hyblygrwydd i ni adeiladu a gwella cartrefi.

Ar beth wnaethon ni wario arian yn 2024/25?

  • Gwariwyd £18.9 miliwn ar adeiladu cartrefi newydd, dod ag 82 dan ein rheolaeth, 96 ar y safle, a 337 ar y gweill.
  • Buddsoddwyd £11.3 miliwn yn ein cartrefi presennol, gan gynnwys 155 to, 50 cegin, 17 ystafell ymolchi, 132 drws tân, a 94 boeler newydd.
  • £737,000 ar addasiadau cartref – gan helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol.

Mae’r sefyllfa gref hon hyd yn oed yn fwy arwyddocaol pan fyddwch chi’n cofio ein hanes. Y ni yw’r unig gymdeithas dai Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr (LSVT) yng Nghymru heb waddol. Taliad blynyddol yw gwaddol y mae LSVTs yn ei dderbyn i helpu i atgyweirio cartrefi ar ôl trosglwyddo. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae hynny wedi golygu bod gennym £56 miliwn yn llai i’w wario ar atgyweirio cartrefi o gymharu ag eraill.

Er gwaethaf hyn, rydym wedi profi y gallwn sefyll ar ein traed ein hunain. Fel sefydliad nid-er-elw, mae pob ceiniog yn mynd yn ôl i’n cartrefi, ein gwasanaethau a’n cymunedau.

Mae ein cryfder ariannol yn golygu y gallwn barhau i wella ein cartrefi fel eu bod yn ddiogel, yn gynnes ac yn sych. Fel y dywedodd Amanda Davies, Cadeirydd y Bwrdd, yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

“Rhaid i fuddsoddi mewn cartrefi presennol fod ar frig ein hagenda.”

Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd, gan symud i ail gam ein prosiect Twf er Daioni (Growth for Good) a defnyddio dulliau adeiladu modern ar gyfer effeithlonrwydd ynni wrth adeiladu cartrefi newydd.

Yn olaf, rydym mewn sefyllfa wych i gyflawni ein cynlluniau twf, gan gefnogi adfywiad Pen-y-bont ar Ogwr a helpu mwy o bobl i gael cartrefi fforddiadwy.”