Mae’n bleser gennym lansio ein hymrwymiad i Lais y Cwsmer a’r Gymuned – ffordd newydd o gynnwys
cwsmeriaid a chymunedau wrth lunio dyfodol Cymoedd i’r Arfordir.
Rydym am i chi ddweud “Rwyf I Mewn!” oherwydd bod eich llais yn cyfrif. Oherwydd bod eich cymunedau o bwys. Oherwydd bod ots gennych chi. Felly, gyda’r ymrwymiad newydd hwn, byddwn yn eich grymuso i arwain newid lleol, dysgu o’ch profiadau, a’ch cefnogi i gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallwch – boed hynny’n fawr neu’n fach. Wedi’i gyd-gynhyrchu â’n cwsmeriaid, mae’r ymrwymiad hwn yn ymwneud â:
● Defnyddio eich rhagwelediad i brofi syniadau newydd;
● Cael eich mewnwelediad i’n helpu i weld pethau drwy eich llygaid chi;
● Rhoi goruchwyliaeth i chi o’r hyn rydym yn ei wneud i’n cadw ni ar y trywydd iawn; a
● Gweithio gyda chi wrth edrych yn ôl i fyfyrio ar effaith ein penderfyniadau.
Byddwn yn sicrhau bod eich llais yn helpu i lunio’r penderfyniadau pwysicaf. Felly, p’un a ydych am rannu syniad, cymryd rhan mewn panel, neu helpu i arwain newid lleol, mae lle i chi.
Gall eich llais lunio’r dyfodol. Ymunwch heddiw.
Dewch i wybod mwy am y ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan, a byddwn wrth ein boddau’n eich clywed yn dweud, “Rwyf I Mewn!”