Rydym wedi dechrau ar y gwaith adeiladu yn swyddogol ar ddatblygiad Clwb Cymdeithasol Betws i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn yr ardal!
Partneriaeth dros gynnydd
Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Grŵp Castell i adeiladu 20 o fflatiau un ystafell wely sy’n effeithlon o ran ynni (gyda sgôr EPC o A!). Rydym yn defnyddio dulliau adeiladu blaenllaw, gan gynnwys paneli pren sydd wedi’u hinsiwleiddio o flaen llaw ac wedi’u cydosod oddi ar y safle er mwyn sicrhau’r
ansawdd uchaf. Mae hyn yn golygu llai o darfu a chyfnod adeiladu cyflymach.
Bydd yr holl gartrefi ar gael ar rent cymdeithasol, gan fynd i’r rhai sydd â’r angen mwyaf am gartref. Hefyd, bydd popeth sydd ei angen ar drigolion ar gael ar eu stepen drws, gan fwynhau mynediad
hawdd i siopau, ysgolion a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Nodi’r garreg filltir
Yr wythnos diwethaf, er gwaethaf tywydd gwael y gaeaf, bu cydweithwyr, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol, Jo Oak, ac aelodau o’r gymuned, yn bresennol i’n gwylio ni’n ‘torri tir’ ar y safle newydd.
Roedd aelodau staff o Grŵp Castell hefyd yn bresennol i ddathlu dechrau’r prosiect.