Ein nod yw darparu cartrefi sy’n ddiogel, yn gynnes, yn fforddiadwy ac sy’n cael eu cynnal yn dda. Cartrefi y mae ein cwsmeriaid yn falch o fyw ynddynt, ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i:
- Fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a sicrhau effeithlonrwydd ynni ein cartrefi;
- Buddsoddi yn ein cartrefi i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal i safon uchel ac yn addas at y diben; a
- Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddatblygu tai newydd i helpu’r argyfwng tai cenedlaethol.
Mae 75% o’n dyraniadau tai yn dod o Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
I fod yn gymwys a chael eich ychwanegu at y gofrestr hon, mae’n rhaid i chi fod ag ‘angen tai’. Darllenwch Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gael gwybod a fyddwch chi’n gymwys.
Gallwch gael eich ychwanegu i Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr drwy greu cyfrif ar-lein.
Os nad ydych yn gallu cael eich ychwanegu ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin, bydd y Cyngor yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau tai eraill. Gallwch hefyd ofyn iddynt adolygu eich penderfyniad.
Cwestiynau Cyffredin
Yn gyffredinol, mae gan ein cynlluniau bolisi dim anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, byddwn yn eithrio pan fydd hyn yn effeithio’n negyddol lles cwsmer, ac os yw’r llety’n addas. Er enghraifft, mae gan yr eiddo ddrws blaen ar wahân i atal yr anifail rhag symud drwy leoedd cymunedol.
Bydd cyflwyno anifail anwes i gynllun yn digwydd drwy ymgynghori gyda chwsmeriaid eraill. Fodd bynnag, mae anifeiliaid anwes therapi yn aml yn ymweld â’n cynlluniau.
Mae’n bosibl y gallwch drosglwyddo i un arall o’n cartrefi os yw’r Ddeddf Diwygio Lles yn effeithio arnoch, os yw eich cartref yn rhy fawr neu’n rhy fach i’ch aelwyd, neu os oes gennych gyflwr meddygol ac nid yw eich cartref presennol yn diwallu eich anghenion. Os ydych am wneud cais i drosglwyddo am resymau meddygol, bydd angen i chi roi llythyr gan eich meddyg i ni i gefnogi eich cais. Gweler y canllawiau yn y tab isod sy’n amlinellu’r hyn y bydd angen i’r llythyr ei gynnwys.
Wrth drafod trosglwyddiad gyda chi, byddwn yn ystyried pethau fel y ydych chi wedi talu’r holl gostau rhent a gwasanaeth cyfredol, ac a oes unrhyw addasiadau heb awdurdod wedi cael eu cyflawni ar y tŷ.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio neu ffoniwch ni am y sefyllfa, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich camau nesaf.
Er ein bod ni’n ceisio sicrhau bod ein cartrefi’n bodloni anghenion cwsmeriaid newydd a phresennol, nid oes modd trosglwyddo bob amser. Cadwch hyn mewn cof os ydych chi’n disgwyl i faint eich teulu gynyddu.
Gofynnwch i’ch ymarferydd meddygol gynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich
llythyr i roi’r cyfle gorau i chi o gael cartref addas i drosglwyddo iddo:
● Eich manylion personol gan gynnwys eich enw, dyddiad geni a’ch cyfeiriad.
● Y cyflwr meddygol/cyflyrau meddygol neu’r anabledd yn glir.
● Am faint o amser y mae eich cyflwr meddygol yn debygol o barhau ac a allai ei
effaith arnoch newid, er enghraifft, a yw’n debygol o waethygu dros amser.
● Disgrifiwch sut mae’r cyflwr yn effeithio ar weithgareddau beunyddiol ac ym mha
ffyrdd y mae eich sefyllfa bresennol o ran byw yn effeithio’n negyddol arnoch.
● Pa argymhellion tai penodol y byddent yn eu gwneud ar gyfer symud tŷ yn y dyfodol.
● Mae angen i’r llythyr gael ei ddyddio a’i lofnodi gan y gweithiwr meddygol proffesiynol hefyd.
Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch ynglŷn â chyflwyno tystiolaeth ategol, cysylltwch naill ai’n uniongyrchol â’ch Partner Tai Cymunedol neu Fywyd, neu siaradwch ag aelod o’r tîm ar 0300 123 2100.
Os hoffech gyfnewid eich cartref gyda pherson arall sy’n byw mewn tŷ cymdeithasol, gallwch hysbysebu hyn drwy wefan o’r enw HomeSwapper. Waeth os hoffech aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr ai peidio, byddwch yn cael gwybod pan fydd cartref addas i chi yn cael ei ganfod.
Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar Homeswapper yma.