Mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn, ac rydym yn un o’r sefydliadau yng Nghymru sydd wedi addo creu lleoedd gwell yma yng Nghymru, gan ymrwymo i Siarter Llunio Lleoedd Cymru. Trwy fabwysiadu’r ymagwedd Llunio Lleoedd at ddatblygu, ein nod yw creu cymunedau diogelach, hapusach y gall ein cwsmeriaid deimlo’n falch o fyw ynddynt. 

Ym mhob un o’n datblygiadau, rydym yn ystyried sut gallwn gyfrannu at adeiladu Cymru well, ac yn benodol sut gallwn helpu i adfywio Pen-y-bont ar Ogwr.  Fel landlord cymdeithasol tymor hir yn y Sir, rydym yn uchelgeisiol dros ein cymunedau – rydyn ni eisiau denu buddsoddiad, magu hyder, creu cyfleoedd ac adeiladu gwerth cymdeithasol parhaol.

Felly byddwn yn sicrhau bod ein datblygiadau yn y dyfodol yn cynnwys y gymuned, yn blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn creu strydoedd a mannau agored diffiniedig, diogel a chroesawgar, ac yn hybu cymysgedd cynaliadwy o ddefnyddiau i greu lleoedd bywiog.

Rydyn ni hefyd eisiau helpu ein preswylwyr i wella’u sgiliau cyflogadwyedd, felly rydym yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cyfleoedd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr drwy’r Rhaglen Kickstart ac wedi lansio partneriaeth gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle i greu mwy o brentisiaethau, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith i’n cymunedau, gyda chymorth ein partneriaid cadwyn gyflenwi.  Rydym hefyd yn rhan o’r Rhwydwaith Cyflogadwyedd newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Rydyn ni’n parhau i gefnogi a chyfeirio grwpiau cymunedol, gan fenthyg sgiliau i gynnal prosiectau, sefydlu blaenoriaethau a nodi atebion. Ein nod yw uchafu’r effaith a gawn yn ein cymunedau trwy weithio’n agos gyda’n cadwyn gyflenwi a’n contractwyr fel y bydd ein buddsoddiadau’n gwella llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ac yn cefnogi’r bunt ym Mhen-y-bont ar Ogwr Punt.

Mae ein prosiectau diweddar yn cynnwys: gweithio gyda SERS i helpu Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr i symud i leoliad newydd a darparu Caffi Llesiant i Ddarparwyr Gwasanaeth; gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i lansio prosiect digidol peilot a ddefnyddiodd byrth facebook i gysylltu cwsmeriaid yn ein cynlluniau gwarchod â myfyrwyr y coleg; gweithio gyda phreswylwyr Heol y Cyw i godi arian i ddod â band eang a wi-fi i’r neuadd bentref yn Heol y Cyw fel y gallant gynnig gweithdai digidol, system ddesgiau poeth TG, siopa ar-lein a mwy.

Cartrefi sy’n addas ar gyfer y dyfodol (Link opens in new window)

Mae’n bwysig i ni ein bod yn darparu cartrefi sy’n gynnes, yn ddiogel ac yn fforddiadwy i’w rhedeg – cartrefi sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.