Rydym am i’n cymunedau fod yn gryf, yn gysylltiedig, ac yn lleoedd gwych i fyw ynddynt. Weithiau, ychydig o help ychwanegol yw’r cyfan sydd ei angen i syniadau da dyfu’n brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. Dyna lle mae Buddion Cymunedol yn camu i’r adwy. Darperir y cymorth hwn gan ein contractwyr a’n datblygwyr fel rhan o’u hymrwymiad i roi rhywbeth yn ôl. Mae’n helpu i ariannu a chefnogi gweithgareddau sy’n dod â buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol – a phob un yn anelu at wneud ein cymdogaethau’n lleoedd gwell i bawb.
Pwy all wneud cais?
Mae ein cymorth Buddion Cymunedol yn agored i unigolion a grwpiau cymunedol a hoffai wneud rhywbeth dros eu cymuned. Bydd angen i chi fyw neu weithio o fewn ôl-troed Cymoedd i’r Arfordir (Valleys to Coast), sef Pen-y-bont ar Ogwr a rhannau o Rondda Cynon Taf.
Pa fuddion cymunedol sydd ar gael?
● Llafur – crefftwyr i helpu.
● Deunyddiau – ar ffurf rhoddion.
● Talebau Siopa hyd at werth £500.
● Gwirfoddolwyr – i helpu gyda phrosiect cymunedol.
● Profiad Gwaith/Lleoliadau – i helpu i ennill profiad.
● Ffug Gyfweliadau – i helpu i ennill profiad.
● Nawdd – ar gyfer eich clwb neu ddigwyddiad.
Er enghraifft, yn ddiweddar helpom y Pantri Cymunedol Baobab Bach i uwchraddio’u prif swyddfa, gan eu cefnogi i ddosbarthu prydau i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi a phobl anabl a’u gofalwyr.

Pryd allwch chi ofyn am gymorth budd cymunedol?
Mae ceisiadau ar agor drwy gydol y flwyddyn, yn amodol ar argaeledd. I gyflwyno’r ffurflen gais orau oll, bydd angen i chi ddweud wrthym:
● Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud?
● Sut fydd o fudd i’ch cymuned?
● Pa un o’n Blaenoriaethau Gwerth Cymdeithasol y mae’n ei gefnogi?
● Pwy fydd yn elwa?
● Unrhyw wybodaeth ychwanegol a all ddod â’ch syniadau’n fyw.
Cynhelir cyfarfod nesaf y panel ar 14eg Hydref, felly darllenwch y canllawiau hyn a chyflwynwch eich cais cyn 13eg Hydref i roi amser i’r panel ei adolygu!
Sut mae ceisiadau’n cael eu hasesu?
Mae ein Panel Gwerth Cymdeithasol yn cynnwys cydweithwyr o bob rhan o Gymoedd i’r Arfordir (Valleys to Coast) a Llanw ac mae’n cyfarfod bob tri mis i adolygu ac asesu ceisiadau am fuddion cymunedol.
Byddant yn gwirio pa mor dda y mae eich prosiect yn ymgysylltu â’n meysydd blaenoriaeth a’r gwahaniaeth y mae’n debygol o wneud. Trwy ein hymrwymiad ‘Dw i Mewn’, bydd ein cwsmeriaid hefyd yn
cael cyfle i fod yn rhan o’r Panel Gwerth Cymdeithasol.
Yr hyn na allwn ei gefnogi
● Gweithgareddau nad ydynt yn cefnogi ein meysydd blaenoriaeth.
● Ceisiadau anghyflawn.
● Unrhyw brosiectau sydd angen taliad ariannol uniongyrchol (dim ond talebau siopa rydym yn eu darparu).
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’r newyddion da ac yn trafod y camau nesaf. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch gydag adborth i’ch helpu yn y dyfodol.
Rhannu eich llwyddiant
Rydym wrth ein bodd yn gweld yr effaith rydych chi’n ei chael! Gofynnwn i geisiadau
llwyddiannus anfon y canlynol atom:
● Lluniau o’ch prosiect.
● Adroddiad cynnydd byr.
Byddwn yn rhannu eich llwyddiannau yn ein Hadroddiad Effaith Gymdeithasol blynyddol i ddathlu’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud ar draws ein cymunedau.
Telerau ac Amodau
● Rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ein hôl-troed (Pen-y-bont ar Ogwr a rhannau o Rondda Cynon Taf).
● Un cais y person neu grŵp bob 12 mis.
● Gall ceisiadau llwyddiannus blaenorol ailymgeisio ar ôl blwyddyn.
● Rhaid i weithgareddau fod o fudd i’r gymuned a bodloni o leiaf un Maes Blaenoriaeth Gwerth Cymdeithasol.
● Uchafswm gwerth y talebau siopa: £500.
● Rahid cyflwyno lluniau ac adroddiad prosiect byr ar ôl cwblhau’r gwaith.