Mae gennym rôl bwysig i’w chwarae yn ein cymunedau. Nid ydym yma i reoli cartrefi yn unig: rydym am greu cymdogaethau diogel, hapus a deniadol.
Beth rydych chi wedi’i ddweud wrthym
Gwyddom eich bod chi’n poeni’n fawr am eich cymunedau. Y llynedd, mewn 12 digwyddiad #CaruEichStryd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, buom wrthi’n casglu sbwriel, clirio llwybrau, a thocio mieri ochr yn ochr â chi. Ond yn bwysicaf oll, fe wnaethom wrando.
Dywedoch yn union sut olwg hoffech chi ei weld ar eich ystadau, a chawsom ein hysgogi gan yr adborth hwn i ailystyried ein contract cynnal a chadw tiroedd.
Mwy am eich arian
Ar hyn o bryd, mae sawl contractwr yn torri ein gwair tua 13 gwaith y flwyddyn, heb dorri ymylon, trin chwyn na chlirio llwybrau.
Credwn y gallwn wneud mwy am yr un arian trwy ddefnyddio un contractwr ar draws yr holl ystadau. Byddent yn torri’r gwair tua 8 neu 9 gwaith, ond gyda llawer mwy o waith wedi’i gynnwys.
Dyma beth hoffem ei gynnwys yn y contract newydd:
- Torri gwair ar yr holl ystadau ar sail amserlen a rennir
- Torri ymylon llwybrau ar ddechrau’r tymor
- Cynnal a chadw llwyni a gwrychoedd Trin a thynnu chwyn
- Clirio dail yn yr hydref a’r gaeaf
- Biniau compost ar ystadau
- Plannu bylbiau (cennin Pedr a thiwlipau)
- Cefnogi cymunedau gyda phrosiectau plannu
- Dolydd blodau gwyllt a phlannu helyg
- Clirio tipio anghyfreithlon a chasglu sbwriel (y gellir ailgodi tâl arnynt)
- Clirio mwsogl ar arwynebau solet
Y nod? Golwg “wedi cael eu torri” ar ein hystadau, ond hefyd golwg graenus, gydag amserlen dorri glir!
Cynlluniau Byw yn y Gymuned
Mae ein cynlluniau Byw yn y Gymuned wedi dweud wrthym fod angen dull gwahanol arnyn nhw.
Maent wedi gofyn am:
- Dorri gwair o leiaf 10 gwaith y flwyddyn
- Blodau haf a gaeaf
- Golchi llwybrau a mannau y tu allan â pheiriant jet er diogelwch, yn dilyn achosion o breswylwyr hŷn bron â chwympo
Felly bydd y rhain yn cael eu trin ychydig yn wahanol o fewn y contract.
A oeddech chi’n gwybod?
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i un o’r gloÿnnod byw mwyaf prin yn yr ardal. A byddai’n dda iawn gennym eu cadw yma. Mae cefnogi bioamrywiaeth yn rheswm arall dros ystyried yn fwy gofalus sut rydym yn gofalu am ein mannau gwyrdd!
Hoffech chi rannu adborth gyda ni? E-bostiwch ni ar customervoice@v2c.org.uk