Beth ddywedoch chi wrthym am rent, a beth rydyn ni’n ei wneud nesaf

Published on:

Cyn y Nadolig, fe lenwoch ein harolwg i rannu eich barn am rent a thaliadau gwasanaeth.

Gallwn weld o’r ymatebion ei bod hi’n galed arnoch, ond mai dim ond 32% ohonoch sy’n ymwybodol o’r cymorth ehangach a gynigiwn, gan gynnwys cymorth gyda rhent a chyllid.

Gan eich bod bellach wedi cael gwybod bod codiad rhent ar ddod, rydym am sicrhau eich bod yn gwybod yn union sut i gael hyd i gymorth os oes ei angen arnoch.

Am y codiad rhent

Mae rhent yn cael ei osod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Yn wahanol i rai sefydliadau, dydyn ni ddim yn derbyn gwaddol na chyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, felly incwm rhent yw sut rydym yn ariannu atgyweiriadau a gwelliannau, a buddsoddi yn ein cartrefi yn y dyfodol. Eleni, bydd y rhan fwyaf o gartrefi yn gweld codiad rhent o 4.3%, ond bydd hyn yn dal i fod ymhell islaw lefelau’r farchnad breifat. Er enghraifft, gall fflat safonol gyda ni gostio tua £400-£500 y mis, o gymharu â rhwng £700 – £1,000 am rentu preifat.

Ers yr arolwg, dyma sut rydym wedi gweithredu:

Mae pawb a ymatebodd ac a ofynnodd am gymorth wedi cael galwad.

Rydym hefyd wedi cynyddu ein Cronfa Cymorth Brys i Gwsmeriaid o 20% ar gyfer blwyddyn ariannol 26/27.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn bresennol yn y cymunedau lle cynigir mannau cynnes.

Rydym wedi ymuno â Money Ready i drefnu cwrs rheoli arian personol achrededig deuddydd.

Sut y gallwn eich cefnogi

Cysylltwch â’ch Partner Incwm Cymunedol yn uniongyrchol: bydd eu rhif ar waelod eich llythyr, neu ffoniwch ni ar 0300 123 2100, a byddwn yn eich cysylltu â nhw. Gall ein Partneriaid Incwm roi cyngor ariannol i chi, eich cefnogi gyda chynlluniau talu, neu eich cyfeirio at grantiau, budd-daliadau a chymorth lleol.

Galwch i mewn i un o’n sioeau teithiol rhent y mis hwn, lle gallwch siarad â’n partneriaid Incwm Cymunedol yn bersonol. Nid oes angen apwyntiad, a bydd paned o de a chacen yn aros amdanoch. Gallwch weld y dyddiadau a’r amseroedd yma.

Darllenwch ein taflen gwasanaethau cymorth i gael manylion am sefydliadau ariannol lleol sy’n gallu cynnig help a chyngor.