Rydym yn gweithio i wella ein gwasanaethau digidol, ond ni allwn wneud hynny heb eich help chi. Wrth i ni wneud mwy ar-lein, rydym am sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Beth sy’n digwydd?
Gan ddechrau’r wythnos hon a pharhau tan ddiwedd mis Chwefror, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad neu neges destun gan ein partner, Acuity, yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg ymgysylltu
digidol byr.
Pam mae hyn yn bwysig?
Y llynedd, dim ond 27% o’n cwsmeriaid a ddewisodd ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein. Rydyn ni eisiau deall pam, er mwyn i ni allu datblygu gwasanaethau seiliedig ar eich profiadau bywyd go iawn chi.
P’un a ydych yn hoffi gwneud pethau’n ddigidol, neu mae’n well gennych ddefnyddio ffyrdd traddodiadol o gysylltu â ni a chlywed gennym, mae eich adborth yn hanfodol. Byddwn yn gofyn cwestiynau i gael gwybod pethau fel:
A oes gennych ffôn clyfar personol neu a ydych yn rhannu dyfais gyda’ch teulu.
- A oes gennych ffôn clyfar personol neu a ydych yn rhannu dyfais gyda’ch teulu.
- Pa mor gyffyrddus ydych chi’n teimlo wrth lenwi ffurflenni neu lanlwytho lluniau ar gyfer cais am atgyweiriad.
- A ydych chi’n defnyddio band llydan gartref neu a ydych yn dibynnu ar ddata ffôn symudol.
Trwy ddeall eich sgiliau a’r rhwystrau rydych yn eu hwynebu, gallwn adeiladu gwasanaethau sy’n gweithio’n dda i bawb.
Bydd Acuity yn cysylltu ag o leiaf 500 o gwsmeriaid ar hap – os bydd Acuity yn cysylltu â chi, diolch am gymryd yr amser i’n helpu.