Yr wythnos diwethaf, trosglwyddodd Persimmon Gorllewin Cymru 20 o gartrefi o ansawdd uchel yn Michaels Grove a Morgans Walk ar eu safle ym Mharc Llanilid.
Mae cartref diogel yn hanfodol i’n llesiant a’n hymdeimlad o ddiogelwch, felly rydym yn falch o fedru darparu’r cartrefi hyn ar rent cymdeithasol i bobl mewn angen.
Cartrefi sy’n addas i bawb
Mae’r pecyn yn cynnwys cymysgedd o dai dwy i bedair llofft i siwtio unigolion, cyplau a theuluoedd sy’n dymuno dechrau ar eu penodau nesaf yn RhCT.
Rydym yn llawn cyffro am fod hyn yn golygu bod gennym 40 o gartrefi ar y safle, gan ddyfnhau ein hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt!
Cymuned sy’n ffynnu
Mewn lleoliad gwych yn agos i’r M4, bydd Parc Llanilid yn cynnwys 1,700 o gartrefi pan fydd wedi’i gwblhau.
Mae’r cynlluniau hirdymor ar gyfer y safle yn cynnwys ysgol gynradd newydd, canolfan bentref gyda chyfleusterau hamdden a manwerthu, a llwybrau trafnidiaeth llesol.
Rhannodd Rob Green, ein Cyfarwyddwr Twf a Phartneriaethau, ei farn ar y garreg filltir hon:
“Mae pawb yn haeddu lle diogel a chynnes i fyw ynddo, felly rydym yn falch o gael gweithio gyda’n partneriaid yn Persimmon, Cyngor Rhondda Cynon Taf, a Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol.
“Rydym yn arbennig o gyffrous wrth gaffael cymysgedd o gartrefi dwy i bedair llofft i ddiwallu angen lleol a helpu pobl i ymwreiddio yn RhCT.”
Ymunodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod Cabinet dros Gynllunio yng Nghyngor RhCT, â ni ar ein hymweliad safle’r wythnos diwethaf a rhannodd ein cyffro am y cartrefi.
Dywedodd: “Rwyf bob amser yn cael fy nghyfareddu gan y cydweithio agos rhwng Persimmon a chymdeithasau tai lleol fel Cymoedd I’r Arfordir bob tro y byddaf yn ymweld â Pharc Llanilid. Rwy’n croesawu unrhyw ychwanegiadau at ein stoc tai fforddiadwy ac yn dymuno’r gorau i’r preswylwyr newydd yn eu cartrefi newydd.”