Newyddion da: rydym wedi derbyn £1.7 miliwn trwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi ein gwaith o ailddatblygu Tŷ Wyndham.
Byddwn yn symud ein swyddfeydd yn 2027 o Heol Tremains i Dŷ Wyndham, yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd trawsnewid yr adeilad yn ganolfan fywiog yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o adfywio’r dref, gan hybu’r economi leol trwy ddod â’n 300 o gydweithwyr i’r stryd fawr bob wythnos.
Mae ein cynlluniau beiddgar yn cynnwys:
Unedau masnachol newydd a gwell i gefnogi busnesau lleol.
Lleoliad gwaith modern a derbynfa gyfforddus i’n cwsmeriaid ymweld â ni.
Wyth fflat o ansawdd uchel yng nghanol y dref.
Bydd yr ailddatblygu hefyd yn cynnig cyfleoedd am sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth, yn ogystal ag annog teithio llesol a chreu lleoedd cynaliadwy.
Rydym yn falch o gael cyfrannu at ganol tref cryfach, mwy diogel a mwy croesawgar sy’n cefnogi llesiant, twf a bywyd cymunedol.
Eich cynnwyschi ary daith
Mae ymgysylltu cynnar wedi digwydd yn barod gyda phreswylwyr, cwsmeriaid a darpar ddeiliaid, gan gynnig adborth ar y cynlluniau a’r blaenoriaethau datblygol ar gyfer y safle.
Cynhaliom ddigwyddiad gwybodaeth yn gynharach y mis hwn i roi cyfle i bobl ddysgu mwy am ein cynlluniau, a bydd sgyrsiau pellach yn parhau i sicrhau bod y cynllun terfynol yn adlewyrchu anghenion y gymuned.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Jo Oak: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon ac o gefnogi adfywiad Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu newid cadarnhaol i’r gymuned – mwy o weithgarwch, mwy o gyfleoedd a chanol tref sy’n gweithio i bawb.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, John Spanswick: “Mae hyn yn newyddion gwych i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr gan y bydd yn darparu symiau sylweddol o gyllid newydd a buddsoddiad ffres yn un o’n hadeiladau lleol allweddol.
“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r prosiect hwn yn llawn. Mae’n rhan bwysig o’r ymdrechion sydd ar y gweill i adfywio canol y dref, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â Chymoedd i’r Arfordir i sicrhau ei fod yn llwyddo.”
Gyda’r cyllid wedi’i gymeradwyo a’r amodau wedi’u cytuno, mae’r prosiect ar fin symud ymlaen at y camau dylunio manwl, cynllunio a chyn-adeiladu yn gynnar yn 2026. Wrth i’r prosiect ddatblygu, bydd mwy o ddiweddariadau a chyfleoedd i gynnwys y gymuned yn cael eu rhannu.