Cynhaliom ddigwyddiad gwybodaeth am ein cynlluniau ailddatblygu ar gyfer Tŷ Wyndham yr wythnos ddiwethaf! Dyma’r uchafbwyntiau…

Methu bod yn bresennol? Dyma beth ddigwyddodd!

Ymunodd Maer Pen-y-bont ar Ogwr, cynghorwyr, perchnogion busnes, a chwsmeriaid â ni i drafod ein cynlluniau i symud ein swyddfa, a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y gymuned.

Mae Tŷ Wyndham yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd ei ailddatblygu yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfywio canol y dref.

Mae Tŷ Wyndham wedi’i ariannu’n bennaf gan gyfuniad o grantiau, a bydd yn cael ei drawsnewid yn ganolfan fywiog, sy’n cynnwys swyddfeydd, wyth fflat a nifer o unedau masnachol i gefnogi busnesau lleol.

Roedd y pensaer a luniodd y cynlluniau wrth law i rannu mwy am nodweddion a hygyrchedd yr adeilad, ac fe atebodd ein cydweithwyr gwestiynau am gyfleoedd partneriaeth a’r manteision cymunedol.

Trwy brynu Tŷ Wyndham, rydym yn troi cost rhentu yn ased gwerthfawr sy’n cynyddu ein sefydlogrwydd ariannol a’n pŵer benthyca. Rydym yn gwybod bod angen gofal a sylw ar ein cartrefi, felly bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ailfuddsoddi’n uniongyrchol i atgyweirio a gwella ein 6,000 o gartrefi ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

“Bydd hyn yn anferth i Ben-y-bont!”

Roedd cyffro mawr yn yr ystafell wrth i bobl drafod sut y bydd yr ailddatblygu yn helpu canol y dref i ffynnu.

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni drosto! Dyma beth ddywedodd y rhai a oedd yn bresennol:

“Mae hyn yn mynd i fod yn anferth. Mae’r dref yn dyheu am gael ei hailddatblygu, felly bydd hyn yn wych i ganol y dref.” – preswylydd lleol.

“Bydd yn llawer haws i mi ymweld â chi yn y swyddfa newydd gan fy mod yn dal y bws i’r dref, ac rwy’n ei chael hi’n anodd cerdded i fyny’r bryn i’r swyddfa bresennol.” – cwsmer.

“Rwy’n synnu eich bod yn rhannu’r wybodaeth hon mor gynnar.” – preswylydd lleol.

“Mae’n dda cael digwyddiadau fel hyn fel bod tenantiaid fel ni yn gallu dweud ein dweud a chael clywed ein lleisiau. Rydw i eisiau mwy o ddigwyddiadau fel hyn.” – cwsmer.

Eisiau gwybod mwy?

Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect yn ein taflen wybodaeth am Dŷ Wyndham.