Mae cartref yn gymaint mwy nag adeilad; mae’n sylfaen sy’n rhoi sefydlogrwydd, cysur a gobaith. A phan fyddwn yn trosglwyddo’r allweddi ac yn croesawu rhywun i eiddo newydd, rydym hefyd yn eu helpu i ddechrau pennod newydd.
Wrth i ni helpu cwsmeriaid i setlo yn eu cartrefi newydd ym Mlaenllynfi y mis diwethaf, rhannodd John Davies ei daith drafferthus at gael ei gartref newydd.
Taith John
Tair blynedd yn ôl, symudodd John o Reading i Faesteg i helpu i ofalu am ffrind ar ôl COVID-19. Trodd yr hyn a ystyriai’n ymweliad byr yn daith dai hir ac ansicr.
Yn gyntaf, bu’n byw mewn Airbnbs, ond yn fuan aeth y costau’n rhy uchel. Yna symudodd i drefniant rhannu tŷ, a oedd yn heriol yn ei hunan gyda grisiau serth a chyd-letywyr yn byw bywydau ar wahân, a phob un yno dros dro.
Aeth pethau’n anoddach fyth pan fethodd y landlord â thalu’r morgais, a chafodd yr eiddo ei adfeddu. Yn sydyn, roedd John a’r preswylwyr eraill yn wynebu cael eu troi allan.
Bu’n rhaid i John fynd o flaen llys i sicrhau na fyddai’n colli ei eiddo a chafodd ddeufis i ddod o hyd i rywle newydd. Dyma pryd ymunodd â’r gofrestr tai a derbyn galwad gennym ynglŷn â fflat newydd ym Mlaenllynfi.
Mae gan John faterion symudedd ar ôl dioddef strôc, felly roedd yn hanfodol ei fod yn dod o hyd i gartref oedd yn bodloni ei anghenion. Pan dderbyniodd yr allweddi i’w gartref newydd ar y llawr gwaelod, daeth y blynyddoedd o ansicrwydd i ben.
Gyda gwên oedd yn cyfleu popeth, dywedodd:
Mae’n anhygoel. Rydw i mor hapus, mor falch o gael fy nghartref fy hun. Dydw i ddim yn gorfod poeni am y grisiau bellach, ac rwy’n gallu mwynhau bywyd unwaith eto.“
I John, mae’r cartref hwn yn golygu annibyniaeth, diogelwch, a thawelwch meddwl, rhywbeth nad yw wedi ei brofi ers tro byd.
Mae ei gartref newydd ym Mlaenllynfi yn llawer mwy na lle i fyw iddo: mae’n adfer ei ryddid iddo a’r cyfle i ganolbwyntio ar y peth sydd o’r pwys mwyaf: mwynhau bywyd unwaith eto.