Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb hon (11–18 Hydref), rydym yn sefyll gyda’n gilydd i ddweud yn glir – nid oes lle i gasineb yn ein cymuned nac mewn unrhyw ryngweithio â ni.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol, teg a chyfeillgar i bob cwsmer. I wneud hynny, mae angen i’n cydweithwyr deimlo’n ddiogel, yn uchel eu parch, ac yn rhydd rhag camdriniaeth wrth wneud eu gwaith.
Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn iaith hiliol, gas a difrïol wedi’i chyfeirio at ein cydweithwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n gweithio ar y rheng flaen.
Mae’r ymddygiad hwn yn achosi trallod mawr, ac mae’n rhywbeth na fyddwn yn ei anwybyddu.
Mae pawb yn haeddu cael eu trin ag urddas a pharch, ac mae hynny’n cynnwys aelodau ein tîm sydd yma i’ch helpu chi.
Mae hyn yn berthnasol i bob ffordd y byddwch yn cysylltu â ni — dros y ffôn, e-bost, ar gyfryngau cymdeithasol, neu wyneb yn wyneb. Rydym eisoes wedi gweithredu drwy roi rhybuddion ffurfiol i nifer o gwsmeriaid y gwnaeth eu hymddygiad dorri eu cytundeb tenantiaeth.
Mae iaith gasineb yn drosedd hef ŷd, a lle bo angen, byddwn yn riportio digwyddiadau i’r heddlu i’w hymchwilio.
Cadw ein gwasanaeth yn ddiogel ac yn deg
Er mwyn amddiffyn pawb, mae gennym reolau clir yn eu lle:
Mae galwadau a negeseuon yn cael eu monitro; gellid recordio pob cysylltiad â ni.
Bydd galwadau yn cael eu terfynu ar unwaith os defnyddir iaith hiliol, gas neu ddifrïol a bydd y digwyddiad yn cael ei uwchgyfeirio ar gyfer gweithredu o ran tenantiaeth.
Gallwch riportio trosedd gasineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hawdd ac yn ddiogel:
Ffoniwch yr Hyb ar 0300 123 2100
E-bostiwch ni yn TheHub@v2c.org.uk
Riportiwch ar-lein trwy wasanaeth riportio troseddau casineb 24/7 Cymru, a redir gan Gymorth i Ddioddefwyr: www.reporthate.victimsupport.org.uk
Os ydy rhywun mewn perygl a rhywbeth ar find digwydd, riportiwch hynny i’r heddlu yn gyntaf.
Rydym yn falch o wasanaethu ein cwsmeriaid gyda phroffesiynoldeb, caredigrwydd a pharch, ac rydym yn disgwyl yr un peth ganddyn nhw.
Drwy drin ein gilydd yn ddeallgar ac yn weddus, rydym yn sicrhau bod Cymoedd i’r Arfordir yn gymuned lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, yn uchel eu parch, ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Oherwydd nid oes lle i gasineb yma.