“Alla i ddim cyfleu cymaint mae’r cartref hwn yn ei olygu i mi. Rwy’n ysu am i fy mhlant gael dod i aros!”

Published on:

Mae pawb yn haeddu lle saff i’w alw’n gartref, felly rydyn ni’n falch o droi hyn yn realiti i 14 o barau ac unigolion ym Mlaenllynfi.

Yr wythnos ddiwethaf, trosglwyddom yr allweddi i’r cartrefi fforddiadwy, ac ymunodd ein tîm o Swyddogion Tai â ni ar y safle i helpu’r cwsmeriaid i ymsefydlu.

Roedd yr haul yn tywynnu ym Mlaenllynfi wrth i bawb ddadbacio, ac roedd y cwsmeriaid yn llawn cynnwrf wrth ddechrau ar eu pennod newydd. Dyma beth ddywedont wrthym…

“Mae cael rhywle saff yn werth y byd” –Victoria

Mae Victoria, a oedd yn byw yng nghartref preifat ei mam nes i’w mam farw, wedi bod ar y gofrestr dai ers 16 mis ac yn byw mewn llety dros dro. Er ei bod yn dioddef o arthritis, sy’n golygu bod dringo grisiau’n heriol, roedd ei fflat un ystafell ar y llawr uchaf ac roedd bywyd bob dydd yn boenus.

Dywedodd: “Mae cael rhywle saff lle gall fy nheulu ymweld â mi yn werth y byd. Y peth cyntaf wnes i oedd trefnu fy holl ddodrefn fel ei fod yn teimlo fel fy nghartref.”


“Rydw i mor hapus ac mor falch o gael fy nghartref fy hun.” – John

Buom hefyd yn siarad â John, a symudodd i’r ardal hon dair blynedd yn ôl ac sydd wedi bod yn byw mewn Airbnbs, ac yn rhannu tai gyda llawer o risiau. Pan fethodd ei landlord â thalu’r morgais ar ei gartref blaenorol, bu’n rhaid i John ymuno â’r rhestr dai. Ar ôl aros am rhai misoedd, clywodd John fod un o’n fflatiau newydd wedi ei neilltuo iddo.

Meddai: “Mae’n anhygoel. Rydw i mor hapus, mor falch o gael fy nghartref fy hun. Dydw i ddim yn gorfod poeni am y grisiau ragor, ac rwy’n gallu mwynhau bywyd unwaith eto.”

Mae’n galonogol clywed y bydd y cartrefi newydd hyn yn golygu dechrau pennod newydd i’n cwsmeriaid!

Mwy am y datblygiad

Mae’r datblygiad yn cynnwys pedair ar ddeg o fflatiau un stafell wely a chwe thŷ 2-4 stafell wely sydd wedi’u dyrannu gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor i’r rhai mwyaf anghenus. Mae saith o’r fflatiau ar y llawr gwaelod gydag ystafelloedd gwlyb ar gyfer pobl sydd â symudedd cyfyngedig.

Costiodd y prosiect tua £3.5 miliwn, ac ariannwyd hyd at 70% o’r swm hwn drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Trwy gynnig cyfuniad o gartrefi, byddwn yn cynhyrchu mwy o incwm rhenti, y gallwn ei ailfuddsoddi yn ein cartrefi presennol.

Fel y dywedodd Amanda Davies, Cadeirydd y Bwrdd, “Rydyn ni’n gwybod bod argyfwng tai yng Nghymru. Mae rhaglen twf sy’n rheoli risg ac a reolir yn effeithiol yn dda i’r busnes. Bydd yn dod ag incwm a fydd yn caniatáu i ni fuddsoddi yn ein cartrefi presennol.