Rydym yn gyffrous i rannu ein cynlluniau i symud i swyddfa newydd yn Nhŷ Wyndham, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Nid yn unig y bydd hyn yn creu profiad gwell i chi – ein cwsmeriaid, mae’n gam mawr ymlaen yn ein cenhadaeth i gefnogi adfywiad y dref a helpu ein cymunedau i ffynnu.

Wedi’i ddewis gyda chi mewn golwg…

Trwy symud i leoliad canolog gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych, rydym yn gwneud ein swyddfa’n hygyrch i fwy o’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi alw i mewn a siarad â ni wyneb yn wyneb os oes gennych gwestiwn neu bryder.

Trwy brynu Tŷ Wyndham, rydym yn troi cost rhentu yn ased gwerthfawr sy’n cynyddu ein sefydlogrwydd ariannol a’n pŵer benthyca. Gwyddom fod angen gofal ar ein cartrefi, felly bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol yn ôl i atgyweirio a gwella ein 6,000 o gartrefi ledled Pen-y-bont ar Ogwr.

Fel y dywedodd Prif Weithredwr ein Grŵp, Jo Oak: “Dyma Cymoedd i’r Arfordir yn meddwl yn wahanol, ac yn gwneud yn wahanol, er budd ein cwsmeriaid a’r fwrdeistref.

Mwy na swyddfa gyffredin! Ein gweledigaeth yw i Dŷ Wyndham ddod yn ganolfan fywiog, gan gynnwys:

● Ardal y dderbynfa groesawgar, ar ffurf caffis, lle gallwn sgwrsio â chi mewn cysur.
● Wyth o fflatiau un llofft newydd, gan ddod â mwy o gartrefi o ansawdd uchel i ganol y dref a’n cysylltu â mwy o gwsmeriaid.
● Nifer o unedau masnachol i gefnogi busnesau lleol a dod ag egni newydd i’r ardal.

Ychwanegodd Prif Weithredwr ein Grŵp, Jo Oak: “Nid swyddfa newydd i ni yn unig yw hon, mae’n ofod lle gall cydweithwyr, cwsmeriaid a’r gymuned ehangach gysylltu, cydweithio, a theimlo’n falch o ganol y dref
unwaith eto. O fewn y 18 mis nesaf, byddwn wedi trawsnewid yr adeilad, gan ddod â 300 o gydweithwyr i galon Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.”

Ymgais tîm

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol a byddwn yn ymgynghori â nhw drwy gydol y daith hon i’w gwneud mor llyfn â phosibl i bawb sy’n rhan o hyn.

Byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws i chi eu mynychu i’n helpu i benderfynu sut y dylai’r dderbynfa a’r caffi edrych a theimlo.

Mae Chris Elmore, AS Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn rhannu ein cyffro am y
prosiect. Dywedodd ef:

“Mae hwn yn newyddion gwych i Cymoedd i’r Arfordir a chanol ein tref gan y bydd symudiad o’r fath yn rhyddhau potensial Tŷ Wyndham. Nid yn unig y bydd yn gartref i’w gweithlu o 300, bydd hefyd yn darparu
unedau masnachol i fusnesau newydd ffynnu ynghyd â gofodau preswyl. Ers i mi gael fy ethol y llynedd, rwyf wedi bod yn hyrwyddo adfywio canol trefi ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda
Cymoedd i’r Arfordir wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”

Camau nesaf

Byddwn yn cael mynediad at grantiau i dalu am y rhan fwyaf o’r costau, ac rydym yn gobeithio y byddwn wedi symud i mewn erbyn dechrau 2027!