Y mis hwn, fe neilltuom amser i ddod at ein gilydd a myfyrio ar ein holl gyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma sut y gwnaethom ddathlu ein cydweithwyr…
Rhwng Ebrill 2024 – Ebrill 2025, rydym wedi:
– Cwblhau 26,000 darn o waith atgyweirio, gan wneud ein cartrefi’n fwy diogel ac yn fwy cyfforddus i’n cwsmeriaid.
– Darparu cartrefi fforddiadwy mawr eu hangen i 256 o deuluoedd, gan eu helpu i ymgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
– Plannu dwy goedwig fechan a chreu tair gardd gymunedol, gan ddarparu mwy o fannau awyr agored diogel lle gall preswylwyr dreulio amser.
Roedd ein Dathliad Haf y Grŵp yn ymwneud â meddwl yn wahanol. Wrth gamu nôl oddi wrth ein gwaith bob dydd, cawsom gyfle i ymgysylltu â chydweithwyr, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a dathlu’r pethau rydym wedi’u cyflawni gyda’n gilydd.
Byrgyrs, sglodion, a sgwrsio
Dechreuon ni’r prynhawn gyda phryd o fwyd, gan roi cyfle i gydweithwyr ddal i fyny â’i gilydd a mwynhau donuts gan Whocult wedyn. Yna, dechreuodd y gemau, o mini golff i gystadlaethau saethu pêl-fasged. P’un ai fod ein cydweithwyr yn gwbl newydd neu’n dathlu 20 mlynedd gyda ni, fe wnaeth pawb fwynhau’r hwyl!
Y prif ddigwyddiad: cipolwg
Croesawodd Jo Oak, Prif Weithredwr y Grŵp, bawb drwy rannu fideo pwerus o’n cyflawniadau, ac yna fideo “diolch” yn dangos cydweithwyr yn gwerthfawrogi ei gilydd.
Arweiniodd Mike, y Rheolwr Dysgu, Datblygu a Pherfformiad, sesiwn ar ein gwerthoedd a’n hymddygiad craidd, gan roi cyfle i gydweithwyr ennill gwobrau anhygoel a roddwyd gan fusnesau lleol, gan gynnwys diwrnod pwll yng ngwesty’r Heronstone Hotel, Ninja Creami, a barbeciw Ninja!
Rhannodd Mel, y Swyddog Cefnogi Prosiectau, y newyddion gwych bod ein hymdrechion codi arian wedi codi cyfanswm anhygoel o £4,000 i Ofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr eleni!
Perfformiodd ein côr gwych, y Choral Coasters, fersiwn o ‘Uptown Funk’.
Ac mae’rwobrynmyndi…
I gloi diwrnod hyfryd, fe gyhoeddom enillwyr ein gwobrau i gydweithwyr. Enwebwyd y rhain gan eu cyd-weithwyr a chael eu dewis gan y Grŵp Ymgysylltu Cydweithwyr, ac mae’r gwobrau hyn yn cydnabod unigolion a thimau sy’n wir ymgorffori ein gwerthoedd.
Diolch i bawb a gyfrannodd am ddiwrnod rhyfeddol – gweler yr uchafbwyntiau yma!