Ym mis Gorffennaf, fe gynhaliom ein hail banel cwsmeriaid – ac fe ddefnyddiom eich adborth gwerthfawr i lunio’r sesiwn!

Mae’r paneli hyn yn rhan o’n hymrwymiad llais cwsmer newydd, gan ddod â chwsmeriaid a chydweithwyr at ei gilydd i drafod ein cynlluniau a’n polisïau.

Fe ddywedoch chi, fe wnaethom ni!

Roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i’r ail banel fod mor ddiddorol â’r un cyntaf, felly eich awgrymiadau chi a bennodd yr agenda!

Dywedoch eich bod am siarad yn uniongyrchol â’r Prif Weithredwr, felly ymunodd Jo Oak â ni i wrando ar eich profiadau.

Dywedoch hefyd eich bod am i’r paneli gael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol bob tro, felly fe gynhaliom banel mis Gorffennaf yng Nghanolfan Gymunedol Bryncethin.

Panel mis Gorffennaf: y prif bwyntiau

Rhoddodd cydweithwyr ddiweddariadau ar ein systemau newydd ac fe helpoch chi ni i greu proses ymgynghori cymunedol i roi cwsmeriaid wrth wraidd ein penderfyniadau.

  • Atebodd Jo Oak amrywiaeth o’ch cwestiynau, o atgyweiriadau i recriwtio.
  • Fe wnaethom gymdeithasu dros fyrbrydau a choffi.

Sut mae eich llais eisoes yn cael effaith

Yn ystod panel mis Gorffennaf, fe rannom hefyd ein canlyniadau boddhad cwsmeriaid diweddar ac yn bwysicach fyth, fe drafodom y gwelliannau rydym wedi’u gwneud mewn ymateb, fel:

  • Newid yr opsiynau ar ein system ateb ffôn yn ôl i’r rhai blaenorol, ar ôl i gwsmeriaid ddweud wrthym fod yr opsiynau newydd yn ddryslyd.
  • Cynnal tri digwyddiad ymwybyddiaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ôl i gwsmeriaid ddweud wrthym eu bod yn anhapus â sut rydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Trefnu deg digwyddiad clirio ystadau ar ôl i gwsmeriaid ddweud wrthym fod tipio anghyfreithlon yn broblem yn eu cymunedau.

Oes gennych chi adborth rydych chi’n awyddus i’w rannu? Rydym wir eisiau ei glywed fel y gallwn barhau i wella ein gwasanaethau.

E-bostiwch CustomerVoice@v2c.org.uk neu cysylltwch â’r hyb ar 0300 123 2100.